Mae Coed Lleol Cymru yn elusen genedlaethol, sy’n rhedeg amrywiaeth o weithgareddau coetir a natur gyda’r nod o wella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru.
Mae bod yn yr awyr agored ym myd natur yn cynnig llawer o fanteision i’n llesiant meddyliol. Pan fyddwn yn mwynhau’r awyr agored gyda phobl eraill, mae’n cynnig manteision ychwanegol o gysylltu â phobl eraill.
Dysgwch fwy am sut y gall coetiroedd hybu llesiant a thrawsnewid ein hiechyd. CiedLleol/SmallWoods Wales – Iechyd yn yr awyr agored a rhagnodi cymdeithasol/
Defnyddiwch y map rhyngweithiol i ddod o hyd i le newydd i fwynhau byd natur yn eich ardal chi. CoedLleol/SmallWoods Wales – Coetiroedd ar gyfer lles/
Mynnwch fideos natur a chanllawiau gweithgareddau am ddim i’ch helpu i gysylltu â natur ble bynnag yr ydych chi. Mae gweithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd, syniadau ar gyfer crefftau, ymarfer corff yn yr awyr agored, a mwy.
CoedLleol/SmallWood Wales – Adnoddau naturiol digidol/
Dewch o hyd i’r amrywiaeth eang o weithgareddau iechyd a llesiant awyr agored sydd ar gael, gan gynnwys rhaglenni wyneb yn wyneb ac ar-lein. Activity Programme (Linc Saesneg yn unig).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Canu o’r Enaid
Tri gweithgaredd syml a hwyliog i’ch helpu i forio canu.
Llonydd: Ffilm am Salwch Cronig a Hud
Ffilm dyner sy'n archwilio llonyddwch, galar, a dod o hyd i hud wrth fyw gyda salwch cronig.
Annwyl Fersiwn Iau Ohono i Fy Hun
Defnyddiwch ysgrifennu i fyfyrio, rhyddhau meddyliau ac archwilio eich lles meddyliol trwy ymarfer creadigol syml a phwerus.