Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo! Fy enw i yw Lucy Dickson, ac rwy’n artist a chynllunydd serameg sy’n byw yng Nghaerdydd.
Rwy’n angerddol am y dylanwad positif y gall creadigrwydd ei gael ar ein bywydau, ac yn bersonol, mae hynny’n golygu gwneud pethau gyda fy nwylo.
Rydw i wrth fy modd yn rhannu prosesau sy’n hygyrch, yn hwyl ac yn llonyddu.
Yn y sesiynau hyn, gadewch i fi eich tywys drwy rai technegau crochenwaith syml, a bydd angen rhai deunyddiau arnoch y dylech chi allu dod o hyd iddyn nhw o gwmpas y tŷ gan fwyaf.
Rwy’n argymell dilyn y sesiynau tiwtorial hyn mewn man tawel, gydag amser i ymlacio a mwynhau’r broses.
Deunyddiau
Fideo Un: Ffiol Blagur
- Clai sy’n caledu yn yr aer
- Brwsh paent
- Cyllell
- Sbwng
- Dŵr
- Cerdyn (rhywbeth fel hen gerdyn teyrngarwch)
Fideo Dau: Bowlen dorchog
- Clai sy’n caledu yn yr aer
- Brwsh Paent
- Bowlen
- Tywel papur
- Sbwng
- Dŵr
Fideo Tri: Potyn Print Deilen
- Clai sy’n caledu yn yr aer
- Brwsh paent
- Tiwb
- Cyllell
- Rholbren
- Pren mesur
- Dail/coesau planhigyn
- Papur newydd
- Sbwng
- Dŵr
- Cerdyn (rhywbeth fel hen gerdyn teyrngarwch)
Cofiwch: Nid yw clai sy’n caledu yn yr aer yn addas i ddal hylifau
Ffilmiwyd gan: Clear The Fog
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Lluniwch eich dyfodol iach gyda Pwysau Iach Byw’n Iach
Dechreuwch ar eich siwrnai tuag at bwysau iach drwy gael cyngor gan y GIG sydd wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch anghenion.
Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da
Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.
Straeon o’r Galon – Barddoniaeth, Caneuon ac Adrodd Straeon
Gwrandewch ar dair stori gan Eric Ngalle Charles,yr awdur, y bardd a'r dramodydd a gafodd ei eni yn Cameroon, ac sydd bellach yn byw yng Nghymru.