Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo! Fy enw i yw Leo Nicholson, ac rwy’n animeiddiwr ac yn wneuthurwr ffilmiau sy’n byw yn Ne Cymru. Gan fwyaf, mae fy nghefndir wedi bod fel animeiddiwr stop-symud ar gyfresi teledu a ffilmiau nodwedd.
Yn y fideos hyn, rwy’n rhannu sut i ddechrau gyda dwy dechneg animeiddio draddodiadol; ‘Paper cut-out’ a Stop-symud.
Rwy’n argymell i chi ddechrau drwy ddilyn y fideos Dechrau Arni er mwyn cael y mwyaf o’r 2 fideo animeiddio.
Rydw i wedi cadw at y pethau pwysicaf yn unig, ond gallwch ehangu ac archwilio unrhyw faes os ydych chi eisiau dysgu mwy.
Mae llawer o fanylion yma, felly gwnewch ddefnydd da o’r botwm oedi a pheidiwch â theimlo bod rhaid i chi ruthro drwyddo!
Mwynhewch y dysgu, yr arbrofi a’r arloesi.
Adnodd
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Braslunio a thecstilau celf
Cyflwyniad i decstilau celf a dysgu sut i greu llyfr braslunio ar gyfer pan fyddwch chi'n mynd am dro.
Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.
Bod yn Greadigol wrth Fynd â’r Ci am Dro
Ydych chi'n chwilio am ychydig funudau o lonyddwch wrth i chi gymryd seibiant yn eich diwrnod gwaith prysur? Wel, ymunwch â fi wrth fynd â’r ci am dro yng nghefn gwlad Caerdydd.