Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo, fy enw i yw Laura a rydw i wedi bod yn gweithio fel artist tecstilau wedi’u gwehyddu, gwneuthurwraig, addysgwraig a churadur ers 2003.
Rwy’n wirioneddol angerddol am rannu fy sgiliau ac wrth fy modd yn gweld eraill yn cael yr un boddhad â fi wrth greu tecstilau wedi’u gwehyddu. Mae nifer yn credu bod gwehyddu yn gelfyddyd rhy gymhleth ac anhygyrch i’r rhan fwyaf roi cynnig arni.
Serch hynny, gyda’r ffilm fer hon, rwy’n rhannu sut gall unrhyw un ddechrau gwehyddu’n hawdd gyda dim ond y deunyddiau symlaf.
Mae cerdded bob dydd yn hollbwysig ar gyfer fy iechyd a’m lles, ac wrth gerdded ar lan y môr, rydw i wrth fy modd yn casglu broc môr i wehyddu arno nôl yn fy stiwdio, a dyna rwy’n ei ddangos yn y prosiect hwn. Ar ôl cael fy magu ar arfordir Sir Benfro, rydw i wastad wedi cael fy ysbrydoli gan dirweddau arfordirol. O garu’r awyr agored i sylwi ar wead a phatrymau naturiol cain, mae’r cyfan yn cyfrannu at fy ngwaith.
Mae gwehyddu yn grefft hynod o ofalgar – allwch chi ddim rhuthro’r broses, ac mae’r pwyslais i raddau helaeth ar liw, gwead a rhinweddau llinellol.
Rydw i’n eich annog i droi at eich greddf wrth i chi wehyddu – canolbwyntiwch ar balet lliw sy’n eich plesio a dilynwch eich llif greddfol wrth i chi adeiladu eich tecstilau un rhes ar y tro.
Offer Angenrheidiol:
- Broc môr – Yn ddelfrydol Rhywbeth Fflat a Llyfn
- Siswrn
- Nodwydd Tapestri
- Sgiwer ‘Cebab’ Pren
- Gefail
- Edau
- Tâp Masgio.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Cysgu’n well
Bydd y canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu chi i wella ansawdd eich cwsg.
Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da
Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.
Treulia Amser Gyda’r Sawl Sy’n Dy Wneud Yn Hapus
Dysgwch sut i dynnu llun yn cynnwys yr ymadrodd hwn, neu lawrlwythwch dair dalen liwio gyda gwahanol ymadroddion ysbrydoledig.