Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae’r fideos hyn yn cynnwys technegau byrfyfyr a fydd yn eich ysgogi i symud.
Maen nhw’n canolbwyntio ar ddelweddu a thasgau synhwyraidd i’ch galluogi i ddawnsio mewn ffordd benodol ond personol.
Mae’r fideos yn cynnwys sesiwn gynhesu, i wneud yn siŵr eich bod yn barod i ddawnsio, ac ymlacio’n gyflym i gloi’r sesiwn er mwyn gorffen mewn ffordd ddigynnwrf ac ymlaciol.
Does dim ffordd gywir neu anghywir o wneud gwaith byrfyfyr, felly gallwch symud mor ddeinamig neu mor llonydd ag y dymunwch.
Gobeithio y bydd y gweithdai hyn yn creu cyfrwng ysgogol a chreadigol i chi ddianc rhag rhuthr bywyd bob dydd a’ch galluogi i greu symudiadau diddorol.
Beth Meadway
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Ffotograffiaeth Greadigol
Defnyddio realaeth hudol fel ffordd o ddarlunio emosiynau.
Lluniwch eich dyfodol iach gyda Pwysau Iach Byw’n Iach
Dechreuwch ar eich siwrnai tuag at bwysau iach drwy gael cyngor gan y GIG sydd wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch anghenion.
Argraffu Gyda Pecynnau
Yn y gyfres hon o fideos byr, dysgwch sut i wneud printiau gyda phecynnau cartref.