Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Dathlwch eich creadigrwydd!
Ar ôl gweithio gyda grwpiau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r GIG ac mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, rwy’n gwerthfawrogi cyn lleied o amser ymlacio di-straen sydd ar gael.
Rwy’n gobeithio, wrth rannu’r fideos, y byddwch yn rhoi caniatâd i’ch hunain ymgysylltu’n weithredol â’ch lles, cymryd amser allan o bwysau presennol y byd, a mwynhau!
Gobeithiaf y bydd fy nghyfraniadau yn gwneud ichi wenu, codi eich hyder, a’ch helpu i ddathlu eich creadigrwydd!
Mae’r ffilm drymio Affricanaidd yn dathlu’r rhythm ym mhob un ohonom, ac mae’n dangos nad oes rhaid i chi gael drwm i allu dechrau drymio.
Dathlu’r cerddor ym mhob un ohonom mae’r ffilm – o alaw i rythm, harmoni a chân, gallwn fynegi sut rydym yn teimlo a gwneud pethau lan wrth i ni fynd trwy fywyd.
Mae fy ffilm olaf yn dangos nad oes rhaid i greadigrwydd gael ei gyfyngu i leoliadau penodol, ystafelloedd ac adeiladau.
Yn ogystal â manteision ymwybyddiaeth ofalgar o fynd am dro, mae ysbrydoliaeth anhygoel i’w gael ym myd natur.
Ar draeth stormus, ar ben bryn heulog, neu goedwig dawel, wrth ymwneud â’r byd naturiol gallwn greu cerddoriaeth, canu, a mynegi sut rydym yn teimlo.
Mae’r byd yn dod yn fwyfwy brysur, ac mae’n her i diwnio allan ar gyfer tiwnio mewn i’n hunain. Rwy’n gobeithio, os gallwch chi dreulio ychydig o amser i wylio un o’r fideos, y gallai arwain at newid bach mewn eich agwedd tuag at greadigrwydd cerddorol.
Diolch o’r galon
Fideo: Layla Parkin
Please note that these videos are in both English and Welsh.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Canu o’r Enaid
Three simple and fun activities to help you claim your right to sing.

Niwro-benillion
Gwyliwch gyfres o ffilmiau sy'n edrych ar y cysylltiad rhwng ysgrifennu a chemeg yr ymennydd.

Cymryd Saib gyda Barddoniaeth
A series of exercises from the National Poet of Wales that encourage you to write a meditative poem about a place that brings you peace.