Mae dod yn rhiant am y tro cyntaf yn newid eich bywyd. Gall fod yn amser cyffrous a llawen, ond gall hefyd deimlo’n gyfrifoldeb mawr. Mae llawer o rieni tro cyntaf o’r farn y gall gymryd peth amser i ddod i arfer ag ef.
Mae magu plant yn defnyddio llawer o egni corfforol ac emosiynol ac fel rhiant mae’n naturiol eich bod eisiau rhoi eich plentyn yn gyntaf. Ond i fod y rhiant gorau y gallwch chi fod a rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’ch plentyn, mae’n bwysig gofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun hefyd. Nid oes angen i ofalu amdanoch eich hun gymryd llawer o amser na chynnwys newidiadau mawr.
Gall newidiadau bach fel gwrando ar gerddoriaeth helpu i leihau straen, gwella’ch hwyliau a hyd yn oed gwella’ch cwsg. Gall gwrando ar gerddoriaeth a chanu hefyd helpu gyda’r bondio rhwng y babanod a’r rhai sy’n rhoi gofal iddyn nhw.
Mae meithrin perthynas gyda’ch babi yn bwysig i chi a’ch babi. Nid oes fformiwla hudol i feithrin perthynas ac ni ellir ei orfodi. Mae’n brofiad personol sy’n cymryd amser. I rai, bydd perthynas yn cael ei ffurfio yr union foment y byddant yn dal eu babi yn eu breichiau am y tro cyntaf. I eraill, gall gymryd ychydig yn hirach.
Mae llyfrynnau gwybodaeth i rieni Pob Plentyn Cymru yn rhoi cyngor, gwybodaeth ac maent yn cyfeirio at wasanaethau cymorth i roi help llaw i rieni yng Nghymru o’r cyfnod rhwng beichiogi hyd at 7 oed.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Shibori, Lliwio Sypyn, a Hapzome
Gwnewch wrthrychau tecstil hardd, wedi'u lliwio'n fotanegol ac sy'n ymarferol gyda'r tiwtorialau hyn sy'n defnyddio deunyddiau y gallwch ddod o hyd iddynt yn eich cartref a'ch amgylchedd naturiol.
Straeon Lluniau
Ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol ac ymarfer. Gall ddod yn rhan o'ch trefn ddyddiol yn hawdd.
Gweithdy Dawns Greadigol
Mae'r fideos hyn gan y ddawnswraig Beth Meadway yn cynnwys technegau byrfyfyr a fydd yn eich ysgogi i symud.