Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae pawb yn gallu bît-bocsio os gydych chi’n gallu creu sain a’i throi’n ddilyniant.
Dydy pawb ddim yn breuddwydio am gael bod yn fît-focsiwr, a dwi’n deall hynny’n iawn.
Mae bît-bocsio yn ymwneud â chamu y tu hwnt i’r hyn rydych chi wedi arfer ei wneud a gwneud rhywbeth (gadewch i ni fod yn onest â’n gilydd) sydd ddim yn ‘normal’.
Mae’r weithred o roi cynnig ar rywbeth neu dynnu eich meddwl oddi ar bethau a chael eich trochi wrth yn y broses o ddysgu sgil newydd yn fuddiol. Mae wedi bod yn fuddiol i mi.
Ers yr ysgol gynradd, rydw i wedi cael yr ysfa i greu synau, i fod yn aflonydd ac i symud. Fe wnes i ddatblygu ticiau corfforol a llafar yn ddeg oed. Doeddwn i ddim yn gallu atal yr ysfa mwyach. Ro’n i’n teimlo embaras ac yn gwneud fy ngorau glas i’w cuddio.
Yn dair ar ddeg oed, ar ôl prynu offer DJ, fe wnes i droi at gerddoriaeth ddawns.
Un o’r ticiau a oedd gen i ar y pryd oedd llwnc yn fy ngwddf. Wythnos ar ôl cael y tic penodol yma, fe ges i eiliad wallgof. Roeddwn i wedi ymddieithrio ac wrthi’n breuddwydio mewn gwers Ffrangeg, ac fe wnes i droi’r llyncu ailadroddus yma’n guriad drwm 4/4.
Dyna oedd y dechrau i mi.
Fe wnes i dreulio’r 3 diwrnod nesaf yn ysgrifennu am fy mywyd a’m profiadau gwallgof, ond stori i’w hadrodd rywbryd eto yw honno.
Mwynhewch y fideos, ges i hwyl yn eu cynhyrchu gydag un o fy ffrindiau agosaf, Alex. Diolch iddo fe, BoomHouse a Palm Studios.
Cariad at bawb, dilynwch y’r egni da bob tro 🙂
Dean Yhnell
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethGofalu am eich iechyd meddwl drwy ymwybyddiaeth ofalgar
Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o deimladau ac o’u rheoli drwy ymwybyddiaeth ofalgar.
Ar eich Stepen Drws: Natur, daeareg ac archaeoleg yng Nghymru
Dysgwch am amgylchedd naturiol a hanesyddol Cymru gydag adnoddau gan Amgueddfa Cymru.
Caredigrwydd ac Iechyd Meddwl
Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn archwilio sut y gall caredigrwydd gael effaith ar iechyd meddwl.