Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo. Abi Makepeace ydw i. Artist â chefndir mewn Ffilm, Ffotograffiaeth a Chelfyddydau Cymunedol.
Yn 2020, yn gaeth i’r tŷ yn ystod cyfnod clo y coronafeirws, dechreuais weithio gyda thecstilau — drwy ddefnyddio gwastraff bwyd o’r gegin i liwio ffabrig i’w droi’n ddillad, carthenni ac eitemau eraill. Fe wnes i ddarganfod bod gweithio gyda brethyn yn fyfyriol tu hwnt, a llwyddodd i dawelu fy meddwl a’m corff, yn ystod y cyfnod rhyfedd ac ansicr hwnnw.
Rydw i bellach yn rhedeg gweithdai iechyd a lles i blant, grwpiau cymunedol ac oedolion sy’n agored i niwed, gan rannu hud ac alcemi fforio planhigion a’u defnyddio; gwreiddiau, rhisgl ac aeron er mwyn tynnu lliw a brethyn wedi’i liwio i’w troi’n bethau.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r tiwtorial byr, syml yma, sy’n defnyddio deunyddiau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn eich cartref a’ch amgylchedd naturiol, i greu gwrthrychau tecstilau hardd, sydd wedi’u lliwio’n fotanegol ac sy’n ymarferol.
Dysgwch fwy am fy ngwaith tecstilau cymunedol yn Makepeace Studio (linc Saesneg yn unig).
Camera: Gilly Booth
Cynfas ‘Shibori’ wedi’i lliwio
Shibori yw’r broses draddodiadol o blygu a rhwymo ffabrig i greu rhannau ‘gwrthsefyll’ lle na all y lliw ymdreiddio i greu patrymau ailadroddus hyfryd.
Rydw i’n defnyddio croen winwns yn y tiwtorial yma, y gellir eu defnyddio o’r bin compost, i greu lliw oren / brown hyfryd. Mae hen gynfas yn ddelfrydol i’w defnyddio ar gyfer y broses hon. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gotwm 100% oherwydd ni fydd poly-cotwm yn amsugno’r lliw.
Napcynau ‘Sypyn’ wedi’u Lliwio
Lliwio Sypyn yw’r broses o lapio deunydd planhigion mewn brethyn a’u stemio er mwyn tynnu’r lliw. Cafodd ei datblygu gan yr artist India Flint.
Yn y fideo hwn, rydw i’n defnyddio cynhwysion planhigion a geir yn y gegin a phlanhigion y gellir eu fforio yn eich amgylchedd lleol.
Bydd angen i chi gael cotwm 100%, lliain neu ffabrig naturiol arall fel cywarch neu ddanadl.
Cas Gobennydd ‘Hapazome’
Techneg gwneud printiau hynafol o Japan yw ‘Hapazome’ sy’n golygu curo deunydd planhigion yn syth i bapur neu frethyn, i greu canlyniadau rhyfeddol o fanwl.
Yn y tiwtorial yma, rydw i’n defnyddio blodau a dail sydd wedi’u casglu o’r ardd a’r perthi a chas gobennydd cotwm gwyn. Bydd angen i chi hefyd gael morthwyl ac arwyneb caled. Mae bwrdd torri pren yn gweithio’n dda.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Sgwennu’r Gân Sydd Ynoch Chi Heddiw!
Dysgu hanfodion ysgrifennu caneuon gyda'r cerddor a'r darlledwraig Georgia Ruth.

Stiwdio Syniadau
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu.

Cyfres o Symudiadau Ysgafn
An accessible way for people to integrate an element of self-care into their daily routines.