Mae rhai pobl yn meddwl mai dim ond rhan o heneiddio yw problemau iechyd meddwl. Nid yw hyn yn wir ac nid oes rhaid iddo fod yn wir.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi darparu’r canllaw hwn ar gyfer pobl yn eu 60au sy’n cyrraedd ymddeoliad, neu sydd wedi ymddeol o’u gwaith yn ddiweddar. Yn ystod y newid mawr hwn, mae’n bwysig gofalu amdanom ein hunain yn feddyliol yn ogystal ag yn gorfforol.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn mynd drwy adegau pan fyddwn yn teimlo’n isel, ond mae ymchwil yn awgrymu bod y rhai sydd mewn cyfnod hwyrach mewn bywyd mewn mwy o berygl o brofi effeithiau iechyd meddwl gwael.
Gall symud i gyfnod hwyrach mewn bywyd a’r digwyddiadau mewn bywyd yn ystod y cyfnod hwn arwain at orbryder neu iselder. Mae marwolaeth anwyliaid, dechrau ymddeoliad, unigrwydd, trafferthion ariannol, neu faterion iechyd parhaus yn rhai enghreifftiau.
Mae un o bob pump o bobl hŷn sy’n byw yn y gymuned a dau o bob pump o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal yn profi iselder neu iechyd meddwl gwael.
Mae llawer y gallwn ei wneud i amddiffyn ein lles meddyliol ein hunain yn hwyrach mewn bywyd – bydd y canllaw hwn yn esbonio sut.
Lawrlwythwch y canllaw ‘Sut i Ofalu Am Eich Iechyd Meddwl Pan Fyddwch Yn Hŷn’
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.

Bittersweet Herbal
Darllenwch neu wrando ar y cerddi sydd wedi'u hysgrifennu gan y bardd Gwyneth Lewis fel 'geiriau i wella straen a chyflyrau cronig'.

Bywyd ACTif
Cwrs hunangymorth ar-lein, am ddim i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.