Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Treulia Amser Gyda’r Sawl Sy’n Dy Wneud Yn Hapus

Dysgwch sut i dynnu llun yn cynnwys yr ymadrodd hwn, neu lawrlwythwch dair dalen liwio gyda gwahanol ymadroddion ysbrydoledig.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolDeall fy meddyliau a'm teimladauGwnewch i mi feddwl
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo, Rhyngweithiol
  • Gan: Rhys Padarn Jones
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Darlun wedi'i binio i fwrdd corc. Ar y llun mae'r geiriau hyn: 'Treulia amser gyda'r sawl sy'n dy wneud yn hapus'. Mae dau eicon llwyd o bobl yn cofleidio yn y canol.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

‘Does dim ffordd well o godi calon rhywun na thrwy dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.’

Fy enw yw Rhys Padarn Jones. Dwi’n artist o Bontarddulais sy’n hoff iawn o ddenfyddio geiriau i greu gwaith celf unigryw.

Tra dwi fel arfer yn defnyddio paent acrylic ar gynfas, dwi hefyd yn mwynhau dŵdlo’n gyflym ar bapur gan ddefnyddio pen du i amlinellu’r holl siapau.

Dwi’n credu’n gryf bod tynnu lluniau, lliwio a pheintio yn ddulliau arbennig o leddfu straen ac ymlacio.

Ar gyfer y Cwtsh Creadigol, dwi wedi penderfynu creu fideo o ddŵdl cam-wrth-gam sy’n defnyddio’r frawddeg ‘Treulia amser gyda’r sawl sy’n dy wneud yn hapus.’

Does dim ffordd well o godi calon rhywun na thrwy dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.

Os nad yw dilyn cyfarwyddiadau i greu llun eich hunan o’ch bodd, beth am ddewis un o’r taflenni lliwio parod dwi wedi creu?

Mae gennych ddewis o dri: ‘Bydda’n garedig i ti dy hun’, ‘Lle i’r enaid gael llonydd’ a ‘Rwyt ti’n gryfach nag wyt ti’n feddwl’.

Mwynhewch!

Treulia Amser Gyda’r Sawl Sy’n Dy Wneud Yn Hapus

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.