Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Symud Drwy Lawenydd

Symud Drwy Lawenydd

Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolGofalwch am fy iechyd corfforol
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun, Gydag eraill
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo
  • Gan: https://www.matsenaproductions.com/ (dolen Saesneg yn unig)
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Llun llonydd o dri pobl mewn stiwdio dawns, wedi’I gymryd o’r video ‘Move Through Joy’.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Mae dawnsio’n ffordd o gadw ni’n hunain yn iach, nid yn unig yn gorfforol, ond yn feddyliol hefyd.

Mae ‘Symud drwy Lawenydd’ yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a’ch meddwl yn iach.

Anthony Matsena ydw i, rydw i’n ddawnsiwr ac rydw i wedi creu cyfres o fideos gyda fy mrodyr Kel ac Arnold Matsena.

‘Da ni wedi llunio tasgau symud sy’n hawdd i’w dilyn gyda’r bwriad o ryddhau’r corff a’r meddwl. Yn awl, mae mam yn dod adref o’r ysbyty ar ôl shifft hir ac yn gweld y rhain yn ffordd hwyliog o leihau straen a chadw ei hun yn iach hefyd.

‘Da ni’n gwybod bod eich corff yn dynn ac yn brifo ar ôl dod adref o’r gwaith. Bydd y fideos hyn yn gweithio drwy’r tyndra hwnnw i’ch helpu chi i deimlo’n gryf ac yn rhydd cyn, yn ystod ac ar ôl gwaith.

  • Fideo 1 – Deffro’r corff cyn gweithio
  • Fideo 2 – Cymryd seibiant ac adfywio’r corff
  • Ailosod eich corff ar ddiwedd shifft

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi lawer o brofiad o symud. Dim ond ychydig o le a chalon agored sydd ei angen arnoch chi.

Mwynhewch a chofiwch gael hwyl!

Wake your body before work (dolen Saesneg yn unig)
Take a break and re-energise the body (dolen Saesneg yn unig)
Reset your body at the end of a shift (dolen Saesneg yn unig)

Adnoddau gan Matsena Productions (dolen Saesneg yn unig).

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls