Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo, Cheryl ydw i. Ro’n i’n gerddor prif ffrwd ar hyd fy oes, nes i mi ddeffro’n sydyn saith mlynedd yn ôl wedi colli fy nghlyw, yn dioddel tinitws a hyperacusis.
Mae fy awdiolegydd yn wych ac mae gen i gymhorthion clyw anhygoel sydd wedi trawsnewid fy mywyd, i’r pwynt lle’r oeddwn yn meddwl, beth yw’r dechnoleg sy’n gwneud iddyn nhw weithio ac a allai fod yn fath o gelf?
O hynny dechreuais ar daith greadigol ddiddorol, drwy ail-bwrpasu technoleg cymhorthion clyw i gasglu biorhythmau naturiol y byd natur, a defnyddio’r darlleniadau gweledol hyn i gyfansoddi cerddoriaeth a chelf sain i gynrychioli llais byd natur ei hun.
Efallai eich bod chi’n meddwl … sain gweledol? Sut gallwch chi weld sain? Wel, rydym yn gweld sain drwy’r amser – er enghraifft, mae monitorau’r galon yn eich galluogi i weld sain y galon.
Rydw i wedi creu dwy ffilm; un esboniadol, sy’n annog y gwyliwr i agor ei brofiad synhwyraidd o fyd natur, gan ddangos sut rydw i’n dechrau fy mhroses celf sain amgylcheddol. Mae’r ail yn gydweithrediad gyda’r gwneuthurwr ffilmiau ifanc, Jarro Wimbush o Manjaro Media.
Ffilm un – Ogofâu Tonnau
Gwisgwch yn gynnes a dewch gyda fi i’r traeth yn Llanelli. Cawn weld sut mae gweithio gyda’r amgylchedd ei hun wrth lywio’r elfennau, a dysgu sut mae gwneud eich recordiadau eich hun yn y byd naturiol.
Ffilm dau – Porthladdoedd sy’n symud
Teithiwch ar hyd yr hen harbwr, sydd bellach wedi symud ar hyd y lan.
Mwynhewch y goleudy ym Mhorth Tywyn gyda golygfa o’r top, a rasio ar dywod traeth Pen-bre ar fore oer o Ragfyr, a gwrando ar gerddoriaeth a gyfansoddwyd o fiorhythmau morol ein harfordir.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Helpwr Arian yn eich helpu i fod yn ddoeth gyda’ch arian
Dysgwch sut i fod yn ddoeth gyda'ch arian a manteisiwch ar arweiniad ac adnoddau am ddim.

Rheoli a lleihau straen
Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i reoli a lleihau straen.

Melo
Mae gwefan Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles.