Pam ydy gofalu am eich llesiant meddyliol yn bwysig i chi?
Mae gofalu am fy iechyd meddwl yn bwysig i mi oherwydd rwy’n credu ei fod yn helpu i atal iselder a bod yn negyddol am bethau wrth wynebu heriau bywyd. Mae’n ymddangos bod dementia hefyd yn gysylltiedig â meddwl segur.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich llesiant meddyliol?
Er mwyn amddiffyn a gwella fy llesiant, rwy’n ceisio cadw’n weithgar yn gorfforol ac yn feddyliol. Rwy’n beicio bron bob dydd, rwy’n perthyn i grŵp gwau (gwau a chlonc!), canu clychau, sy’n heriol yn gorfforol ac yn feddyliol! Rwyf hefyd yn dal i ddysgu diwrnod neu ddau yr wythnos mewn ysgol uwchradd, ac yn bendant mae’r myfyrwyr yn fy nghadw’n ifanc! Mae’r rhyngweithio cymdeithasol yn bendant yn hynod fuddiol i fy llesiant cyffredinol. Mae cael fy ngwerthfawrogi yn y Gymuned yn sicr yn gwneud i mi deimlo’n dda.
A oes unrhyw beth arall rydych yn ei chael yn ddefnyddiol neu’n ysbrydoledig yr hoffech ei rannu?
Rwy’n credu bod y corff, y meddwl a’r enaid i gyd yn gysylltiedig. Rwy’n credu bod ‘rhoi o’ch amser eich hun’ yn gwneud ichi deimlo’n dda. Mae ein grŵp gwau yn gwau prosiectau amrywiol ar gyfer y gymuned a phan fydd y prosiectau’n cael eu harddangos o amgylch y dref, mae’r cyfan yn ‘rhoi gwên ar wynebau pobl’ sy’n wych i’w weld.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Syllu ar y lleuad a’r sêr ar noson glir

Teimlo’n rhan o rywbeth mwy wrth i mi gerdded drwy hen fynwentydd

Bodlon – Tair ffilm ar hapusrwydd gan artistiaid niwrowahanol

