Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Derbyn ysbrydoliaeth
  4. »
  5. Mae gwirfoddoli yn fy helpu i ddod o hyd i ymdeimlad o bwrpas

Mae gwirfoddoli yn fy helpu i ddod o hyd i ymdeimlad o bwrpas

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau Cysylltu â naturHobïau a diddordebau
Image of young woman camping

Mae gwirfoddoli yn fy helpu i ddod o hyd i ymdeimlad o bwrpas

Image of young woman camping

Pam ydy gofalu am eich llesiant meddyliol yn bwysig i chi?

Mae gofalu am fy llesiant meddyliol yn bwysig gan ei fod yn effeithio ar fy llesiant corfforol hefyd.  Mae hefyd yn ngalluogi mi i helpu eraill, trwy gwaith neu trwy gwirfoddoli.

Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich llesiant meddyliol?

Rydw i’n treulio amser  tu allan yn cerdded ac yn gwirfoddoli. Mae’n bwysig i mi gadw’n weithgar yn gorfforol ac yn feddyliol.  Rydw i’n cymryd saib i wrando ar gerddoriaeth ac i wneud ychydig o waith crefft syml.

A oes gennych ffoto y gallwch ei rhannu o rywbeth neu rywle sy’n helpu i wella eich lles?

Mae’r llun rydw i wedi’i rannu’n dangos fi yn cyflwr meddwl hapus.  Roeddwn i wedi bod yn gwirfoddoli drwy’r penwythnos fel codwr sbwriel ac yn gwrando ar gerddoriaeth wych.  Cefais y cyfle i fod allan yn yr awyr iach, sgwrsio â phobl am ailgylchu a phwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel.  Roeddwn i hefyd yn deffro yn fy mhabell bob bore i weld mynyddoedd Cymru.

A oes unrhyw beth arall rydych yn ei chael yn ddefnyddiol neu’n ysbrydoledig yr hoffech ei rannu?

Collais fy mhriod 9 mlynedd yn ôl pan oeddwn yn fy 50au. Ymgollais fy hun yn fy ngwaith ac roeddwn i’n gweithio mwy nag oriau gwaith llawnamser mewn nifer o swyddi i gadw fy hun yn brysur.

Dechreuais sylweddoli nad oedd hyn yn beth da yn yr hirdymor, felly naw rydw i’n gweithio’n rhan-amser. Rwyf hefyd yn weithgar iawn yn gwirfoddoli i nifer o sefydliadau fel Cadwch Gymru’n Daclus a Gwarchod Glöynnod Byw. Rwyf wedi gwirfoddoli i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gorffennol ac rydw i’n wrth fy modd o fod tu fas yn yr awyr iach.

Fel ffordd o fynd allan i gymdeithasu, dechreuais wirfoddoli gyda’r ymddiriedolaeth natur leol ychydig fisoedd ar ôl i fy ngŵr farw. Wnaeth hyn agor cyfleoedd eraill i mi.

 

 

 

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls