Pam ydy gofalu am eich llesiant meddyliol yn bwysig i chi?
Mae gofalu am fy llesiant meddyliol yn bwysig gan ei fod yn effeithio ar fy llesiant corfforol hefyd. Mae hefyd yn ngalluogi mi i helpu eraill, trwy gwaith neu trwy gwirfoddoli.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich llesiant meddyliol?
Rydw i’n treulio amser tu allan yn cerdded ac yn gwirfoddoli. Mae’n bwysig i mi gadw’n weithgar yn gorfforol ac yn feddyliol. Rydw i’n cymryd saib i wrando ar gerddoriaeth ac i wneud ychydig o waith crefft syml.
A oes gennych ffoto y gallwch ei rhannu o rywbeth neu rywle sy’n helpu i wella eich lles?
Mae’r llun rydw i wedi’i rannu’n dangos fi yn cyflwr meddwl hapus. Roeddwn i wedi bod yn gwirfoddoli drwy’r penwythnos fel codwr sbwriel ac yn gwrando ar gerddoriaeth wych. Cefais y cyfle i fod allan yn yr awyr iach, sgwrsio â phobl am ailgylchu a phwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel. Roeddwn i hefyd yn deffro yn fy mhabell bob bore i weld mynyddoedd Cymru.
A oes unrhyw beth arall rydych yn ei chael yn ddefnyddiol neu’n ysbrydoledig yr hoffech ei rannu?
Collais fy mhriod 9 mlynedd yn ôl pan oeddwn yn fy 50au. Ymgollais fy hun yn fy ngwaith ac roeddwn i’n gweithio mwy nag oriau gwaith llawnamser mewn nifer o swyddi i gadw fy hun yn brysur.
Dechreuais sylweddoli nad oedd hyn yn beth da yn yr hirdymor, felly naw rydw i’n gweithio’n rhan-amser. Rwyf hefyd yn weithgar iawn yn gwirfoddoli i nifer o sefydliadau fel Cadwch Gymru’n Daclus a Gwarchod Glöynnod Byw. Rwyf wedi gwirfoddoli i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gorffennol ac rydw i’n wrth fy modd o fod tu fas yn yr awyr iach.
Fel ffordd o fynd allan i gymdeithasu, dechreuais wirfoddoli gyda’r ymddiriedolaeth natur leol ychydig fisoedd ar ôl i fy ngŵr farw. Wnaeth hyn agor cyfleoedd eraill i mi.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Darllen a gwrando ar bodlediadau yn lle edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a’r newyddion

Well / Being

Dod o hyd i’r ymdeimlad o berthyn yng nghwmni grŵp nofio dŵr oer
