Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Mab Jones

Well / Being

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau
Dangosiad o berson yn dal cwpan wrth i nhw edrych allan ar gwellt. mynyddoedd gyda pilipala yn eistedd ar

Well / Being

Mab Jones
Dangosiad o berson yn dal cwpan wrth i nhw edrych allan ar gwellt. mynyddoedd gyda pilipala yn eistedd ar

Cerdd ar ffurf ffilm wedi’i hanimeiddio ar y thema hapusrwydd gyda  chyfraniadau gan bobl o bob rhan o Gymru.

Cafodd Well / Being ei llunio, ei chreu, a’i hwyluso gan yr awdures Mab Jones a gafodd ei geni yng Nghaerdydd, ac sy’n dal i fyw yno. Roedd yn ceisio casglu safbwyntiau a mewnwelediadau o bob rhan o’r wlad ar y thema iechyd a lles, o unrhyw agwedd neu ongl a gan amrywiaeth eang o ddinasyddion.

Gall geiriau fod yn ffordd bwerus o fynegi pethau, a gall ‘barddoniaeth’ ddod o sgyrsiau a chyffesiadau pobl go iawn, waeth beth fo’u tafodiaith, eu gwahaniaethau, neu eu safbwyntiau. Nod y prosiect hwn oedd casglu cynifer â phosibl o leisiau a safbwyntiau a’u rhoi at ei gilydd mewn ffordd sy’n dangos barddoniaeth sgyrsiau bob dydd, iaith lafar, syniadau unigol, a straeon personol, yn ogystal â chyfuno’r cyfraniadau hyn mewn cerdd unigol gydlynol a chydweithredol.

Bwriad y ‘gerdd ethnograffig’ hon – cerdd a gyfansoddwyd â llu o leisiau – oedd cynnig ymateb i ‘gyflwr y genedl’; cipolwg i’n meddyliau a’n teimladau am hapusrwydd a lles presennol.

Roedd gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed sut mae pobl yn diffinio hapusrwydd, a’r syniad o hapusrwydd fel taith neu ymarfer, yn hytrach na rhywbeth statig. Gwnaethom ymgysylltu â’r cyhoedd mewn nifer o weithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein a gynhaliwyd gan Mab, yn ogystal â gofyn cyfres o gwestiynau creadigol digidol a ddyluniwyd ganddi a’u gwneud yn hygyrch ar wefan prosiect pwrpasol.

Dros ychydig o fisoedd, cymerodd tua 500 o bobl ran yn y prosiect, gan gyfrannu unrhyw beth o un gair i nifer o frawddegau.

Oherwydd nifer y bobl a gymerodd ran, fe wnaeth Mab rybuddio’r cyfranogwyr mai dim ond nifer penodol o gyfraniadau fyddai’n gallu cael eu cynnwys yn y gerdd a fyddai’n cael ei hanimeiddio. Fodd bynnag, bydd rhywbeth gan bob cyfranogwr yn cael ei gynnwys mewn fersiwn hirach o’r gerdd a gedwir ar y wefan.

Rhoddodd Mab gontract i Lauren Orme, yr animeiddiwr sydd wedi ennill gwobrau, greu’r animeiddiad. Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y bardd Erin Hughes i greu fersiwn Gymraeg o’r gerdd olaf.

Well / Being

Ymateb creadigol yn y Gymraeg i gerdd Mab Jones, Well / Being

Dywedodd Mab:

Rydw i wedi hwyluso llawer o weithdai cymunedol ar gyfer mudiadau fel Mind, Recovery Cymru, Women Seeking Sanctuary, ac eraill. Er fy mod hefyd yn gweithio yn y GIG erbyn hyn, dydw i ddim yn staff rheng flaen, felly gwnes i fwynhau, unwaith eto, gwneud rhywbeth wyneb yn wyneb ac ymgysylltu â phobl mewn ffordd fwy uniongyrchol a phersonol, fel rydw i wedi’i wneud fel hwylusydd celfyddydau llawrydd.

Mae cael llawer o bobl i gymryd rhan mewn prosiect yn rhywbeth rydw i wedi’i wneud sawl gwaith, felly doedd hyn ddim yn newydd. Ond fel bob amswer, fe wnes i fwynhau’r agweddau ar farchnata a rheoli prosiect, a’r elfennau mwy therapiwtig, sef bod gyda phobl – ar-lein, yn bersonol, dros e-bost neu yn ystod sesiwn galw heibio – ac, fel arfer, eu bod yn ymddiried ynof wrth rannu eu safbwyntiau. Yr hyn sy’n wirioneddol werthfawr i mi yw rhywun yn cynnig rhywbeth personol. Waeth pa mor arferol y gallai’r wybodaeth hon ymddangos, oherwydd ei bod yn dod o fodolaeth fewnol rhywun, mae bob amser yn gadael ei marc, ac yn aml yn ddwfn iawn.

Roeddwn wrth fy modd yn clymu’r geiriau a’r llinellau hyn at ei gilydd mewn cerdd. Nid yw’n syndod bod pethau’n gyffredin yn thematig a oedd yn gwneud y gwaith yn haws. Sylwodd Lauren, yr animeiddiwr, ar y rhain hefyd, a defnyddiodd o fy ngherdd wreiddiol i lunio bwrdd stori yn seiliedig ar y pedwar tymor, gan ei bod yn ymddangos bod llawer o ddelweddau’r gerdd yn cynnwys yr elfennau naturiol hyn. Felly, fe wnes i aildrefnu’r gerdd yn seiliedig ar syniadau mwy gweledol Lauren, a oedd yn ddefnyddiol iawn.

Yn olaf, anfonodd yr animeiddiad ataf ar wahanol adegau yn ystod ei ddatblygiad. Ar ôl ei orffen, gweithiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gydag Erin i gyfieithu’r darn er mwyn i Lauren allu creu fersiwn Gymraeg.

Ar y cyfan, yr hyn oedd wedi fy synnu fwyaf oedd nad yw hapusrwydd nac ymdeimlad o les yn dod o arian, enwogrwydd, edrychiad da, nac o feddu ar lawer o bethau. Ni ddywedodd yr un person unrhyw beth fel hyn, er imi gyfweld ac ymgysylltu â phobl o bob oed a phrofiad, a disgwyl y byddai rhywun, ar ryw adeg, yn gwneud hynny. Yn hytrach, dywedodd pobl eu bod yn dod o’r pethau bach mewn bywyd – pethau sydd ddim yn costio dim – ac o gysyniadau wedi’u haddasu ychydig: nid arian, ond cael digon; nid enwogrwydd, ond teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; nid edrych yn dda, ond iechyd da.

Dwi’n aml yn meddwl bod cymdeithas wedi troi’n faterol iawn. Dangosodd y profiad hwn i mi nad yw hynny’n wir o gwbl mewn gwirionedd. Mae pobl o’r farn nad yw arian yn gallu prynu hapusrwydd. Efallai y byddai meddu ar ychydig bach mwy o arian yn braf, ond yn y prosiect hwn roedd pawb yn meddwl y gallai hapusrwydd gael ei feithrin mewn ffyrdd eraill. Ac yn ei dro, roedd hyn yn fy ngwneud i’n hapus.

Dywedodd Erin:

Roedd y broses o gyfieithu’r darn mewn ffordd greadigol yn broses ofalus a phwyllog. Un elfen arbennig y bu’n rhaid ei hystyried oedd nad yw pethau’n cyfieithu’n uniongyrchol o’r Saesneg i’r Gymraeg, a chanlyniad hyn oedd bod yn rhaid rhoi tro personol ar y darn a fyddai’n cipio hud fy mamiaith. Dwi’n mawr obeithio fy mod wedi gwneud cyfiawnder â’r hud hwnnw a bod yna Gymry, ledled y wlad, a fydd yn gallu uniaethu â’r hyn rydw i wedi’i ysgrifennu.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.