Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Derbyn ysbrydoliaeth
  4. »
  5. Ymlacio – a helpu byd natur – drwy ofalu am fwsogl yn fy ngardd

Ymlacio – a helpu byd natur – drwy ofalu am fwsogl yn fy ngardd

Wedi’i rhannu yn: Cysylltu â naturHobïau a diddordebau
Mwsogl yn tyfu ar carreg.

Ymlacio – a helpu byd natur – drwy ofalu am fwsogl yn fy ngardd

Mwsogl yn tyfu ar carreg.

Dwi’n berson sydd eisiau helpu byd natur ym mha bynnag ffordd fach y galla i…

Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?

Gofalu am fwsogl! Yn ddiweddar, rydw i wedi datblygu diddordeb mewn mwsogl ac rydw i wedi bod yn mwynhau dysgu amdano a’i annog yn fy ngardd!

Mae’n blanhigyn anhygoel, mor hynafol (mae’n bodoli ers dros 450 miliwn o flynyddoedd) ac mae mor wydn. Mae’n gallu goroesi mewn hinsoddau poeth ac oer, mewn tymheredd rhwng -15C a 40C. Mae’n sychu er mwyn amddiffyn ei hun ond mae’n dod yn ôl yn fyw pan fydd y glaw yn dychwelyd, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o fwy mewn cyflwr sych.

Mae hefyd yn dda am amsugno carbon deuocsid. Mae gwyddonwyr yn credu y gall un metr sgwâr o fwsogl amsugno mwy o CO2 na choeden aeddfed. Anhygoel!

Mae hefyd mor hawdd ei annog yn yr ardd. Dwi wedi bod yn ofalus wrth chwynnu mewn mannau lle mae mwsogl yn tyfu’n barod, yn codi gwreiddiau’n ofalus fel nad ydw i’n codi’r mwsogl gyda gwreiddiau’r chwyn. Mae’n anhygoel pa mor dda mae’n ymledu pan fydd llai o gystadleuaeth. Mae’n broses ymlaciol iawn ac mae’n fy nhawelu!

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls