Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Coginio ar gyfer Gofal 

Coginio ar gyfer Gofal 

Archwiliwch sut y gall coginio eich helpu i arafu, i ailgysylltu â chi eich hun, ac i gefnogi eich lles cyffredinol .

  • Nod / Anelu: Cysylltu â phoblDarganfod hobi neu ddiddordeb newyddDysgu rhywbeth newydd
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun, Gydag eraill
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud, Hyd at dri munud
  • Math: Fideo
  • Gan: Coginio ar gyfer Gofal 
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd

Gall coginio fod yn llawer mwy na gorchwyl dyddiol; gall fod yn weithgaredd ymdawelu, creadigol a meithringar sy’n cefnogi eich lles emosiynol, ac sy’n meithrin ymdeimlad o ymgysylltu â’r rhai rydych chi’n coginio ar eu cyfer. Yn y fideo hwn, mae Abbie yn sôn am sut mae treulio amser yn y gegin yn ei helpu i arafu, i brosesu emosiynau ac i ailgysylltu â hi ei hunan ac eraill.

Mae coginio yn eich annog i ganolbwyntio ar brofiadau synhwyraidd syml: arogl cynhwysion ffres, sŵn cyllell yn torri a chynhesrwydd sosbanaid o fwyd. Gall y manylion bach hyn eich helpu i ddod o hyd i dawelwch a bod yn esmwyth eich meddwl.

Nid oes rhaid i chi goginio rhywbeth cymhleth. Mae Abbie yn argymell dewis pryd syml rydych chi’n ei fwynhau – rhywbeth cyfarwydd sy’n rhoi cysur i chi. Yn ei fideo, mae hi’n coginio ‘puff puff’, sef byrbryd blasus wedi’i ffrio ag iddo wreiddiau Affricanaidd. Mae’n myfyrio ar sut mae coginio prydau gwahanol yn ei hailgysylltu â’r bobl a’i dysgodd i’w coginio, a’r adegau sydd wedi ffurfio ei bywyd.

Mae’r modd y gall coginio greu ymgysylltiad ystyrlon yn thema allweddol yn y fideo hwn. Gall paratoi bwyd i rywun arall, neu rannu pryd gyda’ch gilydd, helpu i feithrin perthnasoedd a darparu ffordd ystyrlon o dreulio amser gydag eraill. Pan fyddwch chi’n coginio nesaf, meddyliwch am bwy ddysgodd y rysáit i chi, y tro cyntaf y gwnaethoch chi ei baratoi a sut y gwnaeth pobl ymateb iddo.

Mae’r adnodd hwn yn dangos sut y gall tasg bob dydd ddod yn foment bleserus o lonyddwch, myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar.

P’un a ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan syniadau Abbie neu’n rhoi eich stamp eich hun arnyn nhw, gall coginio ddod yn ffordd ystyrlon o gefnogi eich lles.

Coginio ar gyfer Gofal 

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls