Gall coginio fod yn llawer mwy na gorchwyl dyddiol; gall fod yn weithgaredd ymdawelu, creadigol a meithringar sy’n cefnogi eich lles emosiynol, ac sy’n meithrin ymdeimlad o ymgysylltu â’r rhai rydych chi’n coginio ar eu cyfer. Yn y fideo hwn, mae Abbie yn sôn am sut mae treulio amser yn y gegin yn ei helpu i arafu, i brosesu emosiynau ac i ailgysylltu â hi ei hunan ac eraill.
Mae coginio yn eich annog i ganolbwyntio ar brofiadau synhwyraidd syml: arogl cynhwysion ffres, sŵn cyllell yn torri a chynhesrwydd sosbanaid o fwyd. Gall y manylion bach hyn eich helpu i ddod o hyd i dawelwch a bod yn esmwyth eich meddwl.
Nid oes rhaid i chi goginio rhywbeth cymhleth. Mae Abbie yn argymell dewis pryd syml rydych chi’n ei fwynhau – rhywbeth cyfarwydd sy’n rhoi cysur i chi. Yn ei fideo, mae hi’n coginio ‘puff puff’, sef byrbryd blasus wedi’i ffrio ag iddo wreiddiau Affricanaidd. Mae’n myfyrio ar sut mae coginio prydau gwahanol yn ei hailgysylltu â’r bobl a’i dysgodd i’w coginio, a’r adegau sydd wedi ffurfio ei bywyd.
Mae’r modd y gall coginio greu ymgysylltiad ystyrlon yn thema allweddol yn y fideo hwn. Gall paratoi bwyd i rywun arall, neu rannu pryd gyda’ch gilydd, helpu i feithrin perthnasoedd a darparu ffordd ystyrlon o dreulio amser gydag eraill. Pan fyddwch chi’n coginio nesaf, meddyliwch am bwy ddysgodd y rysáit i chi, y tro cyntaf y gwnaethoch chi ei baratoi a sut y gwnaeth pobl ymateb iddo.
Mae’r adnodd hwn yn dangos sut y gall tasg bob dydd ddod yn foment bleserus o lonyddwch, myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar.
P’un a ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan syniadau Abbie neu’n rhoi eich stamp eich hun arnyn nhw, gall coginio ddod yn ffordd ystyrlon o gefnogi eich lles.
Hoffwn ddiolch ein partner Afrowales a wnaeth ddilyn a chydlynu’r datblygiad yr adnodd hwn.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Crosio i Ddechreuwyr
Dysgu'r hanfodion o grosio gyda'r artist crefft o Gaerdydd, Gemma Forde.
CoedLleol/SmallWoods Wales
Dysgwch am fanteision mannau gwyrdd ar gyfer llesiant a mynnwch ysbrydoliaeth i fwynhau natur yn eich ardal chi.
Shibori, Lliwio Sypyn, a Hapzome
Gwnewch wrthrychau tecstil hardd, wedi'u lliwio'n fotanegol ac sy'n ymarferol gyda'r tiwtorialau hyn sy'n defnyddio deunyddiau y gallwch ddod o hyd iddynt yn eich cartref a'ch amgylchedd naturiol.