Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, er efallai nad yw’n ar gael yn Gymraeg.
Mae Llonydd yn wahoddiad i arafu, parchu eich terfynau, a cheisio dod o hyd i’r hud tyner sy’n bodoli hyd yn oed ar y dyddiau anoddaf.
Llonydd: Ffilm ar Salwch Cronig a Hud yn ddarn personol iawn a myfyriol a grëwyd gan Jonathan a Sami Dunn. Wedi’i ysbrydoli gan brofiad Sami o fyw gyda salwch cronig, mae’r ffilm yn edrych ar bwysau emosiynol blinder a phoen cyson, y galar o golli’r hyn arferech chi fod, a’r her barhaus o addasu i gyfyngiadau newydd.
Roedd diagnosis Sami yn gofyn am newid enfawr yn ei ffordd o fyw, gan symud o ffordd o fyw a oedd unwaith yn hynod egnïol i un o wneud pethau’n raddol, gorffwys a defnyddio ynni’n ofalus. Mae’r ffilm yn tynnu sylw at frwydrau go iawn salwch cronig — ond mae hefyd yn taflu goleuni ar yr eiliadau bach, tyner o hud y gellir eu canfod o hyd pan fydd bywyd yn arafu.
Darllenwch y llythyr cariad hwn gan Sami, a ysgrifennwyd yn uniongyrchol at eraill sy’n byw gyda salwch cronig.
“I fy ffrind sydd â salwch cronig,
Gad i mi ddweud yn gyntaf, rwy’n dy weld di ac yn dy deimlo di. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.
Daw galar yn sgil salwch cronig. Galaru am y person oeddet ti o’r blaen a’r pethau roeddet ti’n arfer eu gwneud a’u mwynhau. Gall fod yn anodd ofnadwy dod o hyd i hapusrwydd pan fydd dy feddwl di eisiau gwneud yr hyn na all dy gorff ei wneud. Mae fy myd, ar adegau, wedi cael ei lenwi â thristwch, dicter a rhwystredigaeth.
Fodd bynnag, trwy’r holl deimladau cymhleth hynny, rwy’n hoffi dod o hyd i’r hyn rwy’n ei alw’n ‘hud’. Eiliadau bach o ryfeddod ym mywyd bob dydd. Allwn ni ddim sylwi ar hud os ydym wedi ymgolli mewn byd prysur. Mae’n dibynnu ar lonyddwch.
Pan fydd ein cyrff yn cael eu gorfodi i arafu, rhaid i ni addasu ein hobïau i ddod o hyd i wahanol ffyrdd o ddod â llawenydd i ni. Yn y ffilm hon rwy’n mentro allan, rhywbeth nad wyf bob amser yn gallu ei wneud. Rwy wrth fy modd â’r môr a bod allan ym myd natur, pan mae angen i mi stopio i orffwys rwy’n chwilio am rywbeth a fydd yn gwneud i mi wenu. Rwy wrth fy modd â chrefftau, mae fy lefelau egni a phoen ar y diwrnod yn dylanwadu ar ba fath o grefftau y gallaf ei wneud. Crosio sydd fwyaf hamddenol. Rwy wrth fy modd yn garddio. Alla i ddim treulio oriau yn garddio ar fy mhen fy hun mwyach, ond mae gofyn am help yn dod â fy nheulu ynghyd i rannu rhywbeth sy’n dod â llawenydd i mi ac yn creu atgofion sy’n para.
Paid â’m camddeall, doedd hyn ddim yn hawdd, daeth gyda’i boen a’i ddamweiniau cysylltiedig. Mewn gwirionedd, roedd Jonathan eisiau ffilmio ar fainc harddach ychydig ymhellach i ffwrdd ond allwn i ddim cyrraedd yno. Dyw unrhyw weithgaredd bach ddim yn trwsio popeth, ond gall roi’r hwb bach hwnnw sydd ei angen arnon ni i fod yn hapus.
Gall pobl â salwch cronig fod yn arbenigwyr ar ddod o hyd i hud. Gobeithio y dei di o hyd i rywfaint o hud yn dy ddiwrnod heddiw.
Cariad ac undod
Sami xx
Mae Llonydd yn cynnig myfyrdod onest ar fyw gyda salwch cronig, gan gydnabod yr heriau y mae’n eu hachosi, gan drafod sut y gall eiliadau bach, ystyrlon helpu i reoli’r heriau hynny trwy ddod â chysur, gobaith a theimlad o ymgysylltu.
Os hoffech chi ddarllen rhagor am sut y gallwch chi gwneud crefftau i’ch helpu chi i reoli heriau bywyd a dod o hyd i lawenydd yn ddyddiol, ewch i Eiliadau o Hwyl a Rhyfeddod – Hapus a Cysylltu nôl i’r Canol – Hapus
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gweithredoedd Dychmygol ar gyfer Iechyd A Lles
Defnyddiwch y myfyrdodau hyn i ganolbwyntio a chysylltu â'ch teimladau a'ch dychymyg.
Straeon Lluniau
Ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol ac ymarfer. Gall ddod yn rhan o'ch trefn ddyddiol yn hawdd.
Bywyd ACTif
Cwrs hunangymorth ar-lein, am ddim i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.