Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.
Mae’r erthygl hon yn egluro sut y gall canu a threulio amser ynghanol byd natur yng nghwmni eraill gefnogi lles meddyliol. Mae’n edrych ar sut mae gweithgareddau cerdded a chanu ar y cyd yn rhoi ffordd greadigol i bobl fynegi eu hunain, i deimlo’n llai unig ac i feithrin ymdeimlad o gymuned. Drwy ddod at ei gilydd yn yr awyr agored, gall pobl ddarganfod ymgysylltiad, hyder a chefnogaeth drwy brofiadau syml a rennir.
Gwyliwch y fideo ac archwiliwch sut y gallai gweithredoedd syml o ymgysylltu a chreadigrwydd gefnogi eich lles meddyliol.
Mae Ayoub Boukhalfa yn artist, yn ganwr-gyfansoddwr ac yn berfformiwr sy’n hwyluso gweithdai cerddoriaeth ar y cyd â Chôr WOW. Sefydlodd gôr ar gyfer y cymunedau LHDTC+ yn ddiweddar. Mae Ayoub yn rhugl mewn Arabeg, Ffrangeg a Saesneg ac yn awr mae’n plethu caneuon Cymraeg i’w berfformiadau. Mae ei waith yn dathlu cyfnewid diwylliannol a phŵer cerddoriaeth a rennir.
Fel arweinydd hyfforddedig teithiau cerdded ar diroedd isel, mae Ayoub yn arwain ‘Teithiau Cerdded Canu’ misol gyda phobl sy’n chwilio am noddfa. Mae’r rhain yn cael eu cyflwyno fel rhan o brosiect y Celfyddydau ac Iechyd a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Ramblers Cymru, CAVAMH a Mind Caerdydd. Mae’r teithiau cerdded hyn yn dwyn ynghyd natur, symud a chanu grŵp i gefnogi lles a lleihau’r ynysigrwydd cymdeithasol y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn aml yn ei brofi.
Mae ymchwil yn dangos y gall canu fod yn dda i’r corff yn ogystal â’r meddwl, gan y gall helpu i leihau pwysedd gwaed, sefydlogi’r anadlu a chyfradd curiad y galon, lleihau straen a lleddfu rhai o effeithiau trawma.
I lawer o bobl sy’n chwilio am noddfa, mae gweithgareddau fel Teithiau Cerdded Canu yn rhoi cyfle iddyn nhw siarad, gwrando a rhannu eu baich gydag eraill sy’n deall eu sefyllfa.
Ar adeg pan mae straeon negyddol, camwybodaeth a rhethreg negyddol am bobl sy’n chwilio am noddfa yn gyffredin, mae prosiectau fel Teithiau Cerdded Canu yn helpu i rannu naratif gwahanol. Drwy berfformiadau meddylgar, llawn dathlu sy’n dangos gwerthfawrogiad o fywyd, mae gwaith Côr WOW yn annog adegau o ymgysylltu, undod a dynoliaeth gyffredin sy’n herio stereoteipiau, yn newid meddylfryd ac yn meithrin croeso.
Mae stori Ayoub yn dangos y gall hyd yn oed brofiadau syml a rennir ein helpu i deimlo mwy o ymgysylltiad a chefnogaeth, a bod modd ymdopi â heriau bywyd.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd tebyg, mae sefydliadau fel Ramblers Cymru a Cerdd Gymunedol Cymru yn cynnig nifer o ffyrdd i gymryd rhan, boed hynny drwy grwpiau cerdded, gweithgareddau cerddorol neu brofiadau cymunedol eraill sy’n dod â phobl ynghyd.
Os hoffech chi ddarllen rhagor am sut y gall gweithgareddau fel canu a threulio amser yn yr awyr agored eich helpu i ymdopi â heriau bywyd, ewch i Hwyl wrth Ganu – Hapus a Dos dyddiol o natur er llesiant – Hapus
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Cerddoriaeth y Tirlun
Gwrandewch ar gerddoriaeth gitâr acwstig tawel sy'n cael ei chwarae gan y cerddor Cymreig Toby Hay.
Hybiau llesiant Carers Wales ar gyfer cymorth a chysylltiadau
Dod o hyd i ffyrdd defnyddiol o helpu eich lles meddyliol fel un sy’n gofalu am rywun annwyl.
Bwydo eich creadigrwydd
Mae'r fideos hyn gan yr artist a'r awdur Sadia Pineda Hameed yn defnyddio ryseitiau ac atgofion am fwyd fel ffynhonnell ysbrydoliaeth ac ysgrifennu creadigol.