Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Erthyglau Hapus
  4. »
  5. O’r plât i dawelwch meddwl: Y cysylltiad rhwng ein perfedd a’n hymennydd

O’r plât i dawelwch meddwl: Y cysylltiad rhwng ein perfedd a’n hymennydd

Wedi’i rhannu yn: Iechyd corfforolEin meddyliau a'n teimladau Dysgu
Young woman with Down's Syndrome preparing dinner

Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.

Ydych chi erioed wedi meddwl pam mae pobl yn defnyddio’r ymadrodd Saesneg, “trust your gut”? Mae’n ymddangos bod gwyddoniaeth go iawn y tu ôl i’r ymadrodd. Nid yw iechyd ein perfedd yn effeithio ar dreuliad yn unig. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig yn iechyd ein hymennydd, ein hwyliau a’n llesiant cyffredinol. Mae’r cysylltiad rhwng y perfedd a’r ymennydd wrth wraidd ymchwil newydd gyffrous sy’n dangos sut y gall y bwyd rydyn ni’n ei fwyta a chydbwysedd bacteria yn ein microbiom ddylanwadu ar bopeth o lefelau egni a ffocws i straen, cwsg a chydbwysedd emosiynol.

Drwy ymgysylltu â’r pwnc hwn, byddwch yn cael dealltwriaeth gliriach o sut mae eich system dreulio yn gweithio, pam mae bacteria’r perfedd mor bwysig, a’r dewisiadau ffordd o fyw syml a all eich helpu i deimlo’n iachach, yn hapusach, ac mewn mwy o reolaeth. Nid yw gofalu am eich perfedd yn ymwneud â chyfyngiadau na rheolau cymhleth, mae’n ymwneud â chreu cydbwysedd. Trwy wneud newidiadau bach fel bwyta mwy o ffibr, cynnwys bwydydd probiotig, yfed digon, a rheoli straen, gallwch gefnogi eich corff o’r tu mewn allan.

Y manteision? Gwell treuliad, imiwnedd cryfach, mwy o egni, a meddwl tawelach a chliriach. Pan mae eich perfedd yn ffynnu, mae eich ymennydd a’ch corff yn gweithio mewn cytgord, ac yn eich helpu i fod ar eich gorau bob dydd.

P’un a ydych chi’n chwilfrydig am wyddoniaeth y microbiom, yn chwilio am awgrymiadau ymarferol, neu’n syml eisiau teimlo’n fwy bywiog, bydd y canllaw hwn yn rhoi’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi. Oherwydd bydd perfedd iach yn eich helpu i fod yn iachach ac yn hapusach.

Y tu mewn i’r daith: Sut mae bwyd yn cael ei droi’n egni?

Mae ein system dreulio fel llwybr teithio’r corff ar gyfer bwyd o’r pwynt mynediad i’r allanfa a phob stop ar hyd y ffordd. Ei brif waith yw troi’r hyn rydyn ni’n ei fwyta ac yn ei yfed yn egni, maetholion a dŵr – yr hanfodion sydd eu hangen arnom i oroesi a ffynnu.

Mae’r daith yn dechrau yn y geg, lle mae cnoi a phoer yn dechrau torri bwyd i lawr. Yna mae’r bwyd yn symud i lawr yr oesoffagws i’r stumog, lle mae asidau pwerus yn cymryd drosodd. O’r fan honno, mae bwyd yn mynd i’r coluddyn bach, llwybr troellog sy’n cynnwys y dwodenwm, y jejwnwm, a’r ilewm. Yma, mae’r pancreas yn rhyddhau ensymau i dorri carbohydradau, proteinau a brasterau i lawr, tra bod yr afu yn cynhyrchu bustl i dreulio braster yn haws. Wrth i fwyd deithio trwy’r system dreulio, mae maetholion yn cael eu hamsugno trwy waliau’r coluddyn bach ac yn cael eu danfon i’r llif gwaed.

Yn olaf, mae’r hyn sydd ar ôl yn mynd i mewn i’r coluddyn mawr, sy’n gartref i driliynau o facteria’r perfedd. Mae’r microbau hyn wrth eu bodd yn bwydo ar ffibr ac, wrth wneud hynny, maent yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi treuliad, imiwnedd ac iechyd cyffredinol.

Efallai eich bod chi’n meddwl, beth sydd gan ein bwyd a’r system dreulio i’w wneud â’n llesiant meddyliol a’n hymennydd… Wel, fel y gallwch weld, mae ein system blymio bersonol yn gymhleth ond mae rhwydwaith o bibellau gwaed sy’n rhan o’r system gylchrediad gwaed sy’n gweithio ochr yn ochr â’n system nerfol a’n system imiwnedd yn ei helpu. Felly, gadewch i ni archwilio sut mae’r rhain i gyd yn cysylltu â’n llesiant a’n hymennydd.

Bacteria’r perfedd

Mae eich perfedd yn gartref i driliynau o organebau bach, a elwir yn ficrobiota’r perfedd. Dyma’r gymuned fwyaf o facteria yn y corff. Maent yn gwneud gwaith anhygoel – o helpu i dorri ffibr i lawr ac amsugno fitaminau, i’n hamddiffyn rhag bygiau niweidiol.

Mae gwyddonwyr yn dysgu mwy a mwy am sut mae’r bacteria perfedd hyn nid yn unig yn dylanwadu ar dreuliad, ond hefyd yn dylanwadu ar ein hwyliau a’n llesiant meddyliol. Mae microbiom perfedd amrywiol a chytbwys wedi’i gysylltu ag iechyd cyffredinol gwell, tra bod amrywiaeth is wedi’i chysylltu â phroblemau gydag iechyd corfforol a meddyliol. Yn syml, pan fyddwn yn gofalu am ein perfedd, rydym hefyd yn helpu i gefnogi meddwl iachach a hapusach.

Y cysylltiad rhwng y perfedd a’r ymennydd

Meddyliwch am amser pan oeddech chi’n teimlo’n nerfus, cyn cyfarfod mawr neu ddigwyddiad pwysig efallai a’r teimlad o “bili-palod” yn eich bol. Dyna eich perfedd a’ch ymennydd ar waith. Maent yn cyfathrebu â’i gilydd yn gyson, a phan mae’r ymennydd yn synhwyro straen ac yn mynd i’r modd “ymladd neu ffoi”, mae’r perfedd yn aml yn ei deimlo hefyd.

Ond nid stryd unffordd mo hon. Mae’r perfedd hefyd yn anfon signalau yn ôl i’r ymennydd trwy’r nerf fagws. Ar ôl i chi fwyta, er enghraifft, gall y perfedd roi gwybod i’r ymennydd ein bod ni’n cael digon o faetholion neu hyd yn oed roi arwydd os yw’r system imiwnedd yn ymladd yn erbyn gwaeledd.

Yn fwy diddorol byth, mae llawer o’r bacteria sy’n byw yn ein perfedd yn cynhyrchu’r un niwrodrawsyryddion â’n hymennydd, gan gynnwys dopamin a serotonin , sy’n dylanwadu ar ein hwyliau, ein hymddygiad a hyd yn oed ein cymhelliant. Mae’r cemegion hyn yn dylanwadu ar ein hwyliau, ein hymddygiad, a hyd yn oed ein cymhelliant. Gelwir y rhwydwaith hwn weithiau’n “ail ymennydd” (system nerfol enterig) oherwydd ei fod yn helpu i reoli treuliad yn annibynnol, tra hefyd yn dylanwadu ar y ffordd rydym yn teimlo yn ein meddwl a’n corff.

Gofalwch am eich perfedd i ofalu am eich ymennydd

Mae gofalu am eich perfedd yn gallu ymddangos fel tasg anodd, ond cydbwysedd sy’n bwysig mewn gwirionedd!

Mae dilyn y Canllaw Bwyta’n Dda yn lle gwych i ddechrau. Gall cynnwys yr holl grwpiau bwyd gwahanol yn y symiau cywir yn ystod y dydd neu hyd yn oed dros gwpl o ddiwrnodau, wir helpu ein cyrff i ddod o hyd i’r cydbwysedd hwn.

Dyma ychydig o awgrymiadau gwych i’ch helpu i gadw eich perfedd yn hapus:

  • Bwyta mwy o ffibr – efallai y byddwch chi’n clywed hyn yn aml, ond mae ffibr yn rhan bwysig o’n deietau ac nid yw llawer ohonom yn bwyta digon ohono. Gallwch wneud hyn drwy fwyta amrywiaeth o wahanol ffrwythau a llysiau (gyda’r croen arnynt) a hefyd drwy fwyta mwy o rawn cyflawn, codlysiau, cnau a hadau yn eich deiet.
  • Yfed digon – Mae dŵr yn arbennig yn gallu helpu eich bwyd ar ei daith drwy’r system dreulio a gall hyd yn oed helpu i amsugno fitaminau.
  • Torri i lawr ar fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth a all hefyd fod yn uchel mewn braster, halen a/neu siwgr – gall y rhain darfu ar facteria eich perfedd felly gall fwyta ychydig bach llai ohonynt helpu. Gallwch ddarllen mwy an fwydydd wedi’u prosesu yma. Processed foods – NHS
  • Rheoli straen – fel y gwyddom, mae cysylltiad rhwng ein hymennydd a’n perfedd. Gall rheoli eich lefelau straen helpu i gadw’r perfedd yn hapus a helpu treuliad. Am gyngor ar reoli straen ewch i Hapus – Rheoli a lleihau straen
  • Cwsg – Gall cwsg gwael darfu ar facteria’r perfedd ac arafu treuliad. Am gyngor ar gael noson dda o gwsg, ewch i Hapus – Cysgu’n well
  • Symud mwy – Gall cadw’n egnïol a symud mwy gefnogi treuliad iach yn ein cyrff a gall gynyddu amrywiaeth y microbiomau! Am gyngor ar gadw’n egnïol, ewch i Pwysau Iach Byw’n Iach – Cadw’n actif: Camau bach sy’n gwneud gwahaniaeth
  • Pwysau iach – Drwy gyrraedd a chynnal pwysau iach gallwn helpu ein cyrff i ffynnu. Gall cael deiet cytbwys iachach fod o fudd nid yn unig i’n perfedd a’n hymennydd ond i’r holl systemau yn ein cyrff. Ewch i Pwysau Iach Byw’n Iach i gael cyngor ac adnoddau ar gyfer cyrraedd a chynnal pwysau iach.

Galwad i weithredu: Mae gofalu am eich perfedd yn golygu gofalu am eich meddwl. Drwy ofalu am ein system dreulio trwy fwyta bwydydd cytbwys, rheoli straen, a chefnogi’ch microbiom, gallwch roi hwb i’r broses dreulio, eich imiwnedd a’ch llesiant meddyliol. Byddwch yn gweld bod perfedd iach yn gwneud i chi deimlo’n iachach a hapusach.

Am ragor o wybodaeth am sut i ofalu am iechyd eich perfedd, ewch i 5 lifestyle tips for a healthy tummy

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Photo of to women volunteering

Gwirfoddoli er mwyn ffynnu

A person sitting on a bed, playing a guitar

Sut mae gweithgareddau hamdden yn helpu ein lles meddyliol?

Photo of craft session

Codi Pontydd i Berthyn

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls