Mae straen yn deimlad o fod o dan bwysau annormal, boed hwnnw oherwydd llwyth gwaith cynyddol, ffrae gydag aelod o’r teulu, neu bryderon ariannol. Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddeall straen ac yn rhoi ffyrdd i chi o reoli a lleihau’r teimladau hynny.
Mae pawb yn profi straen. Fodd bynnag, pan fydd yn effeithio ar eich bywyd, eich iechyd a’ch lles, mae’n bwysig mynd i’r afael ag ef cyn gynted â phosibl. Mae’r canllaw hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn esbonio symptomau straen fel y gallwch eu hadnabod yn gyflym, a’r pethau y gallwn eu gwneud i helpu pan fydd y teimladau hynny’n dechrau cael effaith ar ein bywydau.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Cerddoriaeth y Tirlun
Gwrandewch ar gerddoriaeth gitâr acwstig tawel sy'n cael ei chwarae gan y cerddor Cymreig Toby Hay.
Canwch Unrhyw Le!
Dewch i ganu gyda'r tri fideo byr hyn gan Hannah Barnes, cantores, actores ac athrawes ganu o Gaerdydd.
Defnyddio Cerddoriaeth i Ddeall Eich Hun
Archwiliwch sut y gall cerddoriaeth eich helpu i fynegi emosiynau, magu hyder a deall eich hun drwy wrando, ysgrifennu a chreu.