Gall y cwrs eich helpu i reoli eich gweithredoedd yn well, a sicrhau bod bywyd bob dydd yn llai gofidus ac yn fwy pleserus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a allai beri gofid.
Cynlluniwyd y cwrs gan Dr Neil Frude a bydd yn eich helpu i ganfod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi ac yn rhoi sgiliau i chi allu byw eich bywyd yn fwy hyderus a gyda mwy o bwrpas.
Mae pedwar fideo ar gael, pob un yn para tua 40 munud yr un. Gallwch wasgu’r botwm saib ar unrhyw adeg a dychwelyd atynt os bydd angen seibiant arnoch chi. Rydym yn argymell gadael diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn i chi ymarfer yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu.
Mae canllaw y gallwch ei lawrlwytho, ei argraffu neu wneud nodiadau arno ar gael ar gyfer pob fideo, ac mae ymarferion sain y gallwch wrando arnynt ar gael hefyd.
Bydd y cwrs yn eich helpu i ddod i ddeall sut mae eich meddwl yn gweithio ac yn eich tywys drwy weithgareddau a fydd yn eich helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.
Mae’r cwrs ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Braslunio a thecstilau celf
Cyflwyniad i decstilau celf a dysgu sut i greu llyfr braslunio ar gyfer pan fyddwch chi'n mynd am dro.
Camwch i fyd adrodd straeon
Dysgu sut i fynd ati i ysgrifennu stori gyda fideo 15 munud o hyd gan yr awdur Jack Llewelyn.
Meddyliwch am iechyd yr ymennydd er mwyn cadw’r ymennydd yn iach a lleihau’r risg o ddatblygu ddementia
Dysgwch sut i gadw'ch ymennydd yn iach a lleihau'ch risg o ddatblygu ddementia