Ydych chi’n chwilio am ffyrdd o gysylltu â natur o’ch cartref?
Mae natur yn cynnig nifer o fanteision i’n lles meddyliol. Mae cysylltu â natur drwy ein synhwyrau, megis gwrando ar synau’r byd naturiol, yn ffordd wych o fanteisio ar effeithiau llonyddol byd natur.
Yn ôl gwaith ymchwil, nid o reidrwydd faint o amser rydym yn ei dreulio ym myd natur sy’n dylanwadu ar ein lles ond, yn hytrach, i ba raddau rydym yn cysylltu â natur drwy ein synhwyrau a’n hemosiynau. Gall hyd yn oed ychydig eiliadau’n cysylltu â byd natur yn y ffordd hon roi hwb i’n lles meddyliol.
Mae’r seinweddau hyn yn ffordd o gael mynediad i fanteision y byd naturiol pan na allwn fod yn yr awyr agored.
Porwch drwy’r casgliad i weld beth sy’n eich helpu i deimlo’n dda.
Mae rhai o’r seinweddau yn uno cerddoriaeth a natur, gan gyflwyno manteision ychwanegol i’n lles sy’n gysylltiedig â gwrando ar gerddoriaeth. Gall cerddoriaeth ein helpu i reoli ein hemosiynau a gwneud i ni deimlo’n llai digalon a phryderus.
O’r wefan Soundscapes for Wellbeing gallwch hefyd gael mynediad i wefan BBC Sound Effects Soundscapes ble y gallwch wrando ar filoedd o recordiadau a chreu eich seinweddau eich hun.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bywyd ACTif
Cwrs hunangymorth ar-lein, am ddim i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.
Bod yn greadigol drwy liwio
Amrywiaeth o dempledi lliwio rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, sy'n addas i bob oed.
Bocs O Gemau
Cymerwch ran yn y naw her hyn, sy'n cynnwys ysgrifennu, lluniadu, cof a'ch dychymyg.