Mae gofalu am eich iechyd corfforol yr un mor bwysig â gofalu am eich lles meddyliol. Gall cynnal pwysau iach gael effaith bositif ar eich lles meddyliol a dyma un o’r ffyrdd gorau o leihau eich risg o gael cyflyrau fel clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel a diabetes math 2.
Ymunwch â’r miloedd o bobl yng Nghymru sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith tuag at bwysau iach a chynnal pwysau iach, gan ddefnyddio’r cyngor a’r adnoddau am ddim sydd wedi’u teilwra ar eich cyfer, a ddatblygwyd gan GIG Cymru.
Mae taith pawb tuag at bwysau iach yn wahanol, a gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Mae asesiad iechyd 5 munud ar gael ar wefan Pwysau Iach Byw’n Iach sy’n gyflym a hawdd i’w gwblhau, ac mae’n rhoi adborth yn seiliedig ar eich siwrnai tuag at reoli eich pwysau hyd yn hyn. Nid yw eich data’n cael eu cadw a dim ond chi fydd yn cael yr adborth.
Ar ôl cwblhau’r asesiad, byddwch yn dewis un o’r pedair ‘Siwrnai’ unigryw sydd ar gael gyda’r cynnwys wedi’i deilwra, ac mae pob siwrnai wedi’i chynllunio i roi’r cyfle gorau i chi gyrraedd eich nodau.
Cymerwch y cam cyntaf tuag at fod yn fwy iach heddiw ac ewch i pwysauiach.cymru.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Dyddiaduron Comic
Gwnewch eich comics dyddiadur eich hun – comics byr, hunangofiannol am ddigwyddiad ym mywyd y crëwr.

Stiwdio Syniadau
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu.

Cysgu’n well
Bydd y canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu chi i wella ansawdd eich cwsg.