Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Codwch eich ysbryd!
Rydw i’n artist sy’n gweithio o’m stiwdio yng Ngogledd Cymru. Rydw i hefyd yn gweithio o fewn y celfyddydau mewn iechyd drwy gynnal gweithdai ar gyfer y rhaglen Celfyddydau ar Bresgripsiwn yng Nglannau Merswy, a Lost in Art ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia yn Sir Ddinbych.
Yn ystod y cyfnod clo, ceisiodd y ddau grŵp gadw eu creadigrwydd yn fyw drwy fynd ar-lein. Cynlluniwyd nifer o’r gweithgareddau i ddefnyddio deunyddiau o amgylch y tŷ.
O’r profiad hwn y daeth creu cychod papur. Sylweddolais fod y gweithgaredd syml, cyflym hwn yn ein galluogi i archwilio’n greadigol, yn ogystal â chyfle i fyfyrio.
Gobeithio y byddwch chi’n cael saib byr i ymlacio, ac i godi eich hwyliau a’ch ymdeimlad o les. Does dim angen unrhyw ddeunyddiau celf na phrofiad o gelf – dim ond y caniatâd i chwarae, archwilio a mwynhau – a does dim canlyniad cywir nac anghywir.
A’r bonws mawr yw – mae’r cychod papur bregus hyn yn arnofio! Felly ewch amdani.
Neu beth am weithio fel tîm i greu llynges fach!
Gwnaethpwyd y fideo hwn drwy gydweithio â’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau Charles Gershom.
Gan edrych ymlaen at weld eich creadigaethau.
Sian Hughes
Offer angenrheidiol
- Papur
- Defnyddiau hapgael siswrn
- Glud neu osodiadau eraill
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Melo
Mae gwefan Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles.

Cyflwyniad i Fît-bocsio
Camwch allan o'r hyn rydych chi wedi arfer ei wneud a dysgu hanfodion bît-bocsio gyda Dean Yhnell.

Cyfres o Symudiadau Ysgafn
An accessible way for people to integrate an element of self-care into their daily routines.