Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Derbyn ysbrydoliaeth
  4. »
  5. Dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab
  6. »
  7. Dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab
gan: Jackie

Dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab

Wedi’i rhannu yn: DysguHobïau a diddordebau
  • Categori: Teuluoedd
Board gwyddbwyll.

Dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab

Jackie
Board gwyddbwyll.

Dwi’n fam i fachgen 8 oed.

Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?

Mae’n fy helpu i deimlo’n ddigon da i wneud y pethau y mae angen i mi eu gwneud a’r pethau dwi’n mwynhau eu gwneud.

Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?

Yn ddiweddar, rydw wedi mwynhau dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab.

Mae’n rhywbeth na wnes i fyth ei wneud blentyn. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn rhy araf a chymhleth i fuddsoddi amser yn ei ddysgu. Ond daeth fy mab gartref o’r ysgol un diwrnod a dweud ei fod eisiau dechrau dysgu. Felly, cafodd set gwyddbwyll gan ei nain a’i daid ar ei ben-blwydd ac rydym wedi bod yn dysgu gyda’n gilydd!

Mae wedi bod yn ffordd braf o gysylltu ag ef (a rhoi seibiant iddo o’r gemau fideo!).

Dwi’n meddwl bod dechrau ar yr un lefel wedi’i wneud yn fwy o hwyl i’r ddau ohonom ni, a dwi wrth fy modd  yn llwyddo i gael ‘checkmate’, er ei fod yn tueddu i fy nghuro fi yn amlach na pheidio!

Dwi’n hoffi meddwl ei fod yn beth da i les fy mab yn ogystal â’m lles fy hun, ac mae’n teimlo fel ein bod ni’n treulio amser gwerthfawr gyda’n gilydd.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls