Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Straeon o’r Galon – Barddoniaeth, Caneuon ac Adrodd Straeon

Straeon o’r Galon – Barddoniaeth, Caneuon ac Adrodd Straeon

Gwrandewch ar dair stori gan Eric Ngalle Charles,yr awdur, y bardd a'r dramodydd a gafodd ei eni yn Cameroon, ac sydd bellach yn byw yng Nghymru.

  • Nod / Anelu: Archwilio fy nhreftadaethByddwch yn greadigol
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun, Gydag eraill
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo, Rhyngweithiol
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Llun llonydd wedi’I gymryd o’ fideo ‘Visceral Storytelling – Poetry, Songs and Storytelling’ sy’n dangos dyn yn eistedd nesaf I berson ifanc.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Rydw i’n awdur, yn fardd ac yn ddramodydd o Gymru ond cefais fy ngeni yn Cameroon. Rydw i’n credu ym mhŵer adrodd straeon a’i allu i’n cludo i wahanol lefydd a phrofiadau.

Rydw i weid adrodd straeon drwy gydol fy oes, cyhyd ag y gallaf gofio. Roedd gan fy nhaid dair gwraig. Ar y ffordd adref o’r ysgol, byddwn yn stopio yn ei gartref ac yn mynd i gegin ei wraig gyntaf. Byddwn yn adrodd straeon ac yn diddanu ei phlant wrth iddi goginio. Byddai’n rhoi platiad mawr o fwyd i mi.

Yna byddwn yn ymweld â’r ail wraig ac yn gwneud yr un fath. Ar ôl cyrraedd tŷ fy mam, doedd dim ots os nad oedd unrhyw fwyd ar gael.

Y cyfan rydw i wedi’i wneud ers byw yma yng Nghymru yw adrodd straeon. Rydw i wedi cyrraedd yr oedran lle mae’n rhaid i mi ddechrau rhoi’r awenau i’r genhedlaeth nesaf o storïwyr. Felly, fe wnes i gydweithio gyda Caoimhe Lewis ar y prosiect hwn.

O ble daw straeon? I ateb y cwestiwn hwn, fe wnaethom gyfeirio at lyfr chwedlau Cymreig Steven Peterson. Ers y cyfnod cynharaf, mae straeon wedi’u hadrodd mewn ceginau, wrth y tân, o dan y lloer, lar lan yr afon, aa ati.

Wrth i ni ffilmio, fe wnaethom groesi dŵr llwyd yr afon Taf, wrth i Caoimhe ganu cân y cranc. Roedd yn llawer o hwyl.

Rydw i a Caoimhe yn eich annog i wrando ar y straeon hyn, i chwerthin ac i ailymweld ag atgofion eich plentyndod. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich straeon chi.

Ar adeg pan mae’n ymddangos bod y byd ar ei gliniau, gadewch i ni fynd nôl at y pethau syml a dod at ein gilydd, i wrando ac i ddweud straeon wrth ein gilydd.

Gadewch i’n dychymyg lifo a’n creadigrwydd yw’r gobaith sy’n goleuo ein byd, gan barhau â’r cysylltiad hwnnw rhwng y Celfyddydau, Creadigrwydd a’n lles meddyliol. Diolch yn fawr iawn.

Y Bachgen, Y Iâr, a'r Bedydd (dolen Saesneg yn unig)
Y Pryfyn Ffon, y Miltroed, a'r Goeden Iroko (dolen Saesneg yn unig)
Y Cranc Maen yn y Mangrofau (dolen Saesneg yn unig)

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls