Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich llesiant meddyliol?
Mae fy nheulu yn mwynhau ymweld â chestyll a mannau hanesyddol eraill ledled Cymru.
Mae’n deimlad braf dysgu pethau newydd am ein hanes a theimlo’n gysylltiedig â’r bobl, straeon a’r wlad.
Rydyn ni wrth ein boddau yn mynd i ddigwyddiadau ail-greu i ddod â’r hanes hwn yn fyw. Mae fy mab bob amser wrth ei fodd yn gwisgo i fyny hefyd a sgwrsio â’r rhai sy’n ailgreu’r digwyddiadau hyn.
Mae’n dod â’r fath lawenydd i mi ei weld yn gyfforddus i fod yn ef ei hun, yn magu hyder, ac yn archwilio rhai syniadau a theimladau mawr mewn ffordd hwyliog a diogel.

Cofnodion eraill
Gweld popeth
Bod yn gwbl bresennol yng nghwmni eraill

Ymgolli ym myd natur

Treulio amser yn yr awyr agored yn lle o flaen sgrin

