Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Dewch i gael hwyl ac i drio rhywbeth newydd.
Helo Rhian ydw i, o Rhian Circus Cymru a dwi’n gweithio ym myd y syrcas, ers tua ugain mlynedd.
Mae nifer o fanteision i ddysgu jyglo, gallwch datblygu eich ymenydd, gwella eich focus a lleihau straen. Wrth gwneud y tasgiau yma gallwch adnewyddu eich meddwl a fe fyddwch yn y foment bresennol.
Byddwn yn dechrau gyda rhai ymarferion i wella eich cydsymudiad, yna edrychwn ar y dechneg o jyglo ac yn olaf fe ddysgwn rhai triciau!
Ydych chi’n barod?
Offer Angenrheidiol:
3 Pêl Jyglo, Neu Gallwch Ddefnyddio Orenau, Afalau Neu Sannau Wedi’u Rolio I Fewn Eu Gilydd I Greu Siâp Pêl.
Sylwch fod y fideos hyn ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bywyd ACTif
Cwrs hunangymorth ar-lein, am ddim i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.

Stiwdio Syniadau
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu.

Crwydro
Casgliad o dair ffilm ddawns i'ch arwain at eiliad o dawelwch ym myd natur.