Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo, Hannah Barnes ydw i. Rydw i’n gantores, yn actor ac yn athrawes ganu (ac yn berson creadigol yn gyffredinol!) o Gaerdydd.
Y tri fideo canu rydw i wedi eu creu ar gyfer y Cwtsh Creadigol yw:
Gwlad y Gân
Cyflwyniad 3 munud (gydag ychydig o ganu Acapella hudolus, a ysbrydolwyd gan Gymru, yn y cefndir, diolch i S.O.W Acapella).
Cyflwyno fy hun ac egluro hanes canu yn gyflym a sut mae’n rhan o’n DNA, ac yna pam rydw i’n credu bod angen i ni gyd ganu eto.
Rhan 1 o’r wers: Ymarferion Llais unrhyw le
Yng nghwmni fy myfyriwr arbennig (sy’n olygus hefyd) rydyn ni’n mynd drwy rai ymarferion canu hawdd i helpu i wella eich techneg ac i adeiladu eich cryfder lleisiol. Byddwch hefyd yn gweld lle gallwch chi ffitio’r ymarferion hyn o fewn eich trefn ddyddiol ac o amgylch eich sifftiau.
Rhan 2 o’r wers: Gadewch i ni ddysgu ambell gân!
Caneuon – ar ôl cynhesu’r llais yn gyflym, rydw i’n dysgu 2 gân fachog y gallwch chi eu dysgu a chymryd rhan ynddyn nhw. Canwch gyda fi neu beth am roi cynnig arni gyda rhai o’ch cydweithwyr? Yn rydw i’n gorffen gyda gair o anogaeth i GADW I GANU! Beth am ymuno â chôr neu grŵp canu lleol? Wedi’r cyfan, canu gydag eraill yw’r peth gorau i roi hwb i’r endorffinau hynny ac i leihau straen.
Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn mwynhau’r fideos hyn a’ch bod yn cael HWYL (gobeithio y byddwch yn chwerthin ar rai o’n capsiynau) wrth wylio a chymryd rhan! Rydw i eisiau i’r fideos hyn fod o gymorth i chi, ar gyfer eich lles, eich hwyliau a’ch creadigrwydd – i’ch ysbrydoli i ganu, ac yn y pen draw, i sylweddoli y gallwch ‘ganu unrhyw le’.
Ychydig amdana i
Rydw i wedi bod yn canu ers cyn cof ac wedi bod yn canu’n broffesiynol ers dros 15 mlynedd – gan deithio ledled Cymru a’r DU gyda bandiau byw a thriawd Acapella o’r enw S.O.W Acapella (Sound of Wales). Rydw i hefyd wrth fy modd yn dysgu canu ac am iechyd lleisiol, ac yn ddiweddar cynhaliais weithdy ar gyfer yr Undeb Addysg Cenedlaethol yng Nghymru i helpu athrawon i ofalu am eu lleisiau drwy gydol eu gyrfaoedd.
Rydw i hefyd yn creu fideos doniol ar-lein (dyna ein barn ni beth bynnag!) gyda fy ngŵr – sy’n amrywio o barodïau i farddoniaeth, a gallwch eu gwylio fan hyn (linc Saesneg yn unig).
Rydw i’n dysgu canu yn rheolaidd o’r stiwdio yn fy nghartref yng Nghaerdydd, ac rydw i hefyd yn cynnig gweithdai grŵp, a gallaf hyd yn oed helpu gydag unrhyw grwpiau canu neu gorau yr hoffech eu sefydlu! Os hoffech gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected].
Diolch o galon am wylio 🙂
Hannah
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Pob Plentyn Cymru – Gwybodaeth i rieni
Beth bynnag oedd eich taith tuag at fod yn rhiant, os ydych yn ddiweddar wedi dod yn riant newydd, mae'r llyfrynnau hyn ar eich cyfer chi.
Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.
Atgofion Positif
Casglu atgofion positif a chreu gosodiadau celf eclectig bach, rhad.