Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
‘Does dim ffordd well o godi calon rhywun na thrwy dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.’
Fy enw yw Rhys Padarn Jones. Dwi’n artist o Bontarddulais sy’n hoff iawn o ddenfyddio geiriau i greu gwaith celf unigryw.
Tra dwi fel arfer yn defnyddio paent acrylic ar gynfas, dwi hefyd yn mwynhau dŵdlo’n gyflym ar bapur gan ddefnyddio pen du i amlinellu’r holl siapau.
Dwi’n credu’n gryf bod tynnu lluniau, lliwio a pheintio yn ddulliau arbennig o leddfu straen ac ymlacio.
Ar gyfer y Cwtsh Creadigol, dwi wedi penderfynu creu fideo o ddŵdl cam-wrth-gam sy’n defnyddio’r frawddeg ‘Treulia amser gyda’r sawl sy’n dy wneud yn hapus.’
Does dim ffordd well o godi calon rhywun na thrwy dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.
Os nad yw dilyn cyfarwyddiadau i greu llun eich hunan o’ch bodd, beth am ddewis un o’r taflenni lliwio parod dwi wedi creu?
Mae gennych ddewis o dri: ‘Bydda’n garedig i ti dy hun’, ‘Lle i’r enaid gael llonydd’ a ‘Rwyt ti’n gryfach nag wyt ti’n feddwl’.
Mwynhewch!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Myfyrdod
Bydd llais Mali Hâf, ynghyd â cherddoriaeth dawel, yn eich tywys chi drwy fideo myfyrio 10 munud.
Cadw – Dod o hyd i lefydd i ymweld â nhw
Ymweld â safleoedd treftadaeth lleol a dod o hyd i weithgareddau i’w gwneud yng Nghymru.
Ymweliadau Rhithiol Cadw
I’r rhai sy’n awyddus i brofi rhyfeddodau treftadaeth Cymru o’u cartrefi.