Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Ffilm sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio.
Artist tecstilau yw Angela Maddock sydd hefyd yn gweithio yn y celfyddydau mewn iechyd. Yn haf 2019, dechreuodd brosiect celf drwy’r post o’r enw ‘In Kind’.
Roedd y prosiect hwn yn annog pobl i anfon eitemau o edau a oedd wedi’u difrodi neu eu gwisgo at Angela i’w trwsio. Yn gyfnewid, gofynnodd i gyfranwyr rannu straeon am gysylltiadau i ddangos sut mae gwrthrychau yn gweithredu fel rhwymau parhaus rhwng anwyliaid.
Rhannwyd y prosiect In Kind ar ei chyfrif Instagram. Roedd llawer o’r gwaith trwsio yn waith gwau, ac yn cynnwys sanau, crysau chwys a chardigan.
Mae hi’n parhau â’r gwaith hwn ar gyfer y prosiect Sut i Drwsio Hosan, ffilm a wnaed gyda’r ffotograffydd a’r gwneuthurwr ffilmiau Dafydd Williams, sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio, a lle mae’n trwsio sanau a wnaed gan Corgi, y gwneuthurwyr sanau o Gymru, yn ei stiwdio yn Abertawe.
Lawrlwythwch How to Mend a Sock gan Angela Maddock (PDF).
Offer Angenrheidiol
- Nodwydd Greithio
- Edafedd
- Madarch Darnio
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Argraffu Gyda Pecynnau
Yn y gyfres hon o fideos byr, dysgwch sut i wneud printiau gyda phecynnau cartref.
Dyddiaduron Comic
Gwnewch eich comics dyddiadur eich hun – comics byr, hunangofiannol am ddigwyddiad ym mywyd y crëwr.
Ymweliadau Rhithiol Cadw
I’r rhai sy’n awyddus i brofi rhyfeddodau treftadaeth Cymru o’u cartrefi.