Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
‘Tiwniwch i mewn’ i’ch corff a ‘thiwniwch allan’ o fywyd bob dydd.
Helo! Fy enw i yw Thania Acarón ac rwy’n artist, therapydd symudiadau dawns a sylfaenydd The Body Hotel.
Rwy’n gyffrous o fod yn cynnig ambell dasg ymarferol creadigol sy’n seiliedig ar symud, a all eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r corff, hyder ac i fyfyrio ar eich cymorth presennol.
Fel rhywun sy’n gweithio ym maes y celfyddydau, iechyd meddwl ac addysg uwch, rwy’n gallu uniaethu â sut, fel gweithwyr gofal proffesiynol, rydyn ni’n aml yn rhoi pobl eraill yn gyntaf, a gall gofalu am ein hunain fod yn heriol gyda’n hamserlen brysur.
Y syniad y tu ôl i’r gyfres o fideos yw tiwnio i mewn i’ch corff a thiwnio allan o fywyd bob dydd, hyd yn oed am ychydig funudau! Gall yr ymarferion hyn gael eu gwneud mewn unrhyw fath o ofod, a sut rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus.
Rwy’n cynnig dwy brif dasg:
1) cadw golwg ar eich corff cyfan a
2) myfyrio ar symudiad creadigol a fydd yn eich helpu i fywiogi neu ymlacio cyn, yn ystod neu ar ôl eich diwrnod prysur.
Does dim angen unrhyw brofiad symud ac mae’r gweithgareddau yn agored i bobl o bob gallu.
Yn yr ymarferion hyn, rwy’n defnyddio fy hyfforddiant fel therapydd symudiadau dawns a’m gwaith ym maes atal gorflinder ers nifer o flynyddoedd i gynnig syniadau cyflym, awgrymiadau a gweithgareddau byr i’ch cael chi i symud tra’n cefnogi eich llesiant (a chadw pethau’n ysgafn ac yn hwyliog).
Fel arfer, mae ein cyrff yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen cyn i ni fod yn ymwybodol, ac mae symud yn allweddol i ddeall sut rydyn ni’n ymwneud ag eraill.
Efallai y bydd rhai pobl yn credu bod dawnsio ar gyfer ‘y theatr neu deledu’n unig’ ac hyd yn oed yn dweud ‘dydw i ddim yn dawnsio’ neu ‘mae gen i ddwy droed chwith’ – os ydych chi’n teimlo fel ‘na, gobeithio y bydd y fideos hyn yn newid eich meddwl!
Rydyn ni i gyd yn symudwyr, a thrwy symud, gallwn ni wir diwnio i mewn i’r hyn sy’n digwydd i ni a chael persbectif newydd.
Edrychwch ar rai o’r egwyddorion sylfaenol drwy fy nghyflwyniad, ac yna gallwch chi wneud un fideo ar y tro, neu’r tri os oes gennych chi fwy o amser.
Gallwch chi wastad oedi ac archwilio eich ffyrdd eich hun o symud. Does dim dilyniant penodol i’r fideos – gwiriwch a oes angen i chi Fywiogi a/neu Ymlacio, a bant â chi!
Thania Acarón, sylfaenydd The Body Hotel
Video: Sam Irving
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Rheoli gorbryder ac ofn
Gall canllaw’r Sefydliad Iechyd Meddwl eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddeall a rheoli teimladau o orbryder ac ofn.

Cysylltu nôl i’r Canol
Cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig i leddfu straen ac ymdawelu.

Rhowch y gorau i ysmygu am byth a theimlo’r gwahaniaeth yn feddyliol ac yn gorfforol
Dechreuwch eich taith ddi-fwg gyda mynediad at gymorth arbenigol am ddim y GIG gan Helpa Fi i Stopio