Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo! Jack ydw i ac rwy’n awdur a chynhyrchydd theatr o Lanelli ac rwy’n mynd i drosglwyddo ambell syniad i’ch helpu i ysgrifennu eich stori eich hun.
Rydw i wedi bod wrthi’n ysgrifennu ac yn cynhyrchu dramâu a phantomeim ers dros 15 mlynedd, ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy nramâu wedi’u cynhyrchu ledled Cymru.
Rydw i wedi gweithio gyda nifer o gyfarwyddwyr ac awduron yn ystod y cyfnod hwn i ddatblygu fy nghrefft ymhellach. A heddiw rwy’n gobeithio trosglwyddo rhywfaint o’r wybodaeth honno a’ch helpu i ysgrifennu eich stori eich hun.
Rwy’n gwybod eich bod i gyd yn brysur. Mae fy ngwraig yn gweithio i’r GIG, ac rwy’n gwybod bod amser sbâr yn aml yn beth prin, a dyna pam mae’r fideos hyn mor dda oherwydd allwch chi bicio i mewn ac allan pan fydd ychydig o amser sbâr gyda chi.
Felly gadewch i ni sgwennu stori! Paid â chael ofn – dyw e ddim mor anodd â hynny. A dweud y gwir, rydw i wedi llwyddo i ffitio’r cyfan i fideo llai na 15 munud!
Yr hyn fyddwch chi’n ei weld yw sut i rannu’r strwythur yn bum adran sy’n caniatáu i chi ganolbwyntio ar bob adran yn hytrach na meddwl am y cyfanwaith. Byddwn hefyd yn edrych ar rywbeth sy’n cael ei alw’n ‘fwrdd stori’ sy’n ffordd wych y gallwch ei defnyddio pan fydd gennych ambell syniad i’w nodi.
Bydd hyn i gyd yn cael ei ddisgrifio’n ofalus yn y fideo, ac os hoffech gopi o fwrdd stori gwag i ymarfer, cliciwch ar y ddolen ac argraffwch ambell gopi.
Mae adrodd straeon yn lot fawr o hwyl oherwydd mae’n gadael i ni gysylltu â’n dychymyg, felly eisteddwch nôl, gwnewch baned ac ewch amdani i ysgrifennu eich stori eich hun!
Pob hwyl!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Canu o’r Enaid
Three simple and fun activities to help you claim your right to sing.

Y Gyfres Bollywood
Dysgwch hanfodion yr arddull ddawns amryddawn hon mewn cyfres o fideos a grëwyd gan gyn-ddawnsiwr Bollywood.

Bwydo eich creadigrwydd
Mae'r fideos hyn gan yr artist a'r awdur Sadia Pineda Hameed yn defnyddio ryseitiau ac atgofion am fwyd fel ffynhonnell ysbrydoliaeth ac ysgrifennu creadigol.