Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Helen

Mae sylwi ar harddwch natur yn helpu mi i deimlo’n gysylltiedig

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau Hobïau a diddordebauCysylltu â natur
Delwedd o berson yn y gardd

Mae sylwi ar harddwch natur yn helpu mi i deimlo’n gysylltiedig

Helen
Delwedd o berson yn y gardd

Pam ydy gofalu am eich llesiant meddyliol yn bwysig i chi?

I deimlo’n dda ynof fy hun, gallu gwneud y pethau sy’n fy ngwneud i’n hapus a gofalu am y bobl rwy’n eu caru.

Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich llesiant meddyliol?

Sylwi ar y pethau sy’n bwysig ar gyfer fy llesiant – sy’n aml yn fwy clir pan nad ydw i’n eu gwneud ac wedi fy nal ym mhrysurdeb bywyd! Rwyf wrth fy modd yn treulio amser ym myd natur a mynd am dro yn y coed, yng nghefn gwlad neu ar yr arfordir. Mae’n cadw fy nhraed ar y ddaear, ac mae’n fy ailgysylltu â’n byd ehangach. Mae sylwi ar bethau fel lliwiau a’r ffordd mae planhigion yn symud a gwylio’r creaduriaid eraill yn mynd o gwmpas eu bywydau yn wirioneddol ymlaciol ac yn fy helpu i anghofio fy mhroblemau a rhoi seibiant i’m meddwl. Rwyf hefyd wrth fy modd yn gwneud lle i fyd natur yn fy ngardd – mae’n braf iawn gweld y gwenyn a’r adar a gwybod fy mod yn gwneud ychydig o les i’n bywyd gwyllt lleol.

A oes unrhyw beth arall rydych yn ei chael yn ddefnyddiol neu’n ysbrydoledig yr hoffech ei rannu?

Un o fy hoff gerddi yw Wild Geese gan Mary Oliver. Rwy’n meddwl ei bod yn dda siarad am eich problemau, ond rwyf hefyd yn meddwl bod lle hefyd i fod yn bresennol yn y foment ac anghofio popeth.

“You do not have to be good.

You do not have to walk on your knees for a hundred miles through the desert repenting.

You only have to let the soft animal of your body love what it loves.

Tell me about despair, yours, and I will tell you mine.

Meanwhile the world goes on.

Meanwhile the sun and the clear pebbles of the rain are moving across the landscapes, over the prairies and the deep trees, the mountains and the rivers.

Meanwhile the wild geese, high in the clean blue air, are heading home again.

Whoever you are, no matter how lonely, the world offers itself to your imagination, calls to you like the wild geese, harsh and exciting over and over announcing your place in the family of things.”

 

 

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.