Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Casglu atgofion positif a chreu gosodiadau celf eclectig bach, rhad.
Artist tecstilau a chyfryngau cymysg o Gwm Garw ydw i, ac yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, rydw i wedi gweithio gyda sefydliadau celfyddydol i greu gweithdai positif sy’n codi calon. Yn ddiweddar, gweithiais gyda cARTrefu drwy fynd â chelf i gartrefi gofal.
Oherwydd y pandemig, rydw i wedi bod yn dysgu ar Zoom i greu celf rhyngweithiol, gan alluogi staff cartrefi gofal i gyflwyno gweithgareddau sy’n codi calon y preswylwyr. Mae hyn wedi rhoi cipolwg i fi o sut mae’r staff gofal iechyd yn teimlo a’r hyn yr hoffent ei archwilio drostyn nhw eu hunain mewn gweithgareddau sy’n codi calon.
Ar gyfer y Cwtsh Creadigol, fe wnaeth y gwneuthurwr ffilmiau Jim Elliott fy ffilmio yn casglu atgofion positif a chreu gosodiadau celf eclectig bach, rhad, sy’n syml ac yn gyflym i’w gwneud, gyda deunyddiau sydd ar gael yn rhwydd, a all fod mor amrywiol â staff y GIG a Gofal Cymdeithasol eu hunain.
Diolch
Alison Moger
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Edrych : Gwrando : Cyffwrdd : Tynnu Llun
Tri ymarfer syml sy'n canolbwyntio ar arlunio arsylwadol, lluniadu cerddoriaeth a lluniadu cyffwrdd wynebau.
Meddwl Drwy Symud
Symudwch gyda'r gyfres hon o fideos a grëwyd gan ddawnsiwr Ballet Cymru.
Argraffu Gyda Pecynnau
Yn y gyfres hon o fideos byr, dysgwch sut i wneud printiau gyda phecynnau cartref.