Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Gadewch i chi’ch hun ganu o’r enaid!
Laura Bradshaw yw fy enw i. Rwy’n artist o Fro Morgannwg ac rydw i wedi bod yn gweithio drwy ddefnyddio canu a cherddoriaeth i annog ymgysylltiad cymunedol, hyder a lles ers bron i 30 mlynedd.
Mae yna ffyrdd gwahanol o gymryd rhan yn y fideos hyn:
Gallech eu gwylio ac ymuno yn y rhannau mwyaf syml, unwaith – neu’n well byth, sawl gwaith. Er mwyn elwa hyd yn oed yn fwy, gallech oedi ac ailadrodd unrhyw rannau a allai fod angen ychydig o ddysgu ychwanegol, dod yn ôl at y gweithgareddau sawl gwaith, ac unwaith y byddan nhw’n gyfarwydd, efallai y dewch chi o hyd i agweddau newydd i roi cynnig arnyn nhw wrth i’ch hyder gynyddu.
Gall eich creadigrwydd eich arwain ar hyd y ‘llwybr llai sathredig’ gyda’ch llais.
Gallwch greu eich alawon, rhythmau ac efallai eich geiriau eich hun. Unrhyw rannau a allai deimlo’n rhy uchel neu’n rhy isel, canwch lle mae’ch llais yn ymlacio’n naturiol.
Fel hyn, ry’ch chi’n siŵr o greu harmonïau diddorol.
Byddwn wrth fy modd pe baech yn hawlio eich hawl i ganu.
Boed yn ganwr profiadol neu’n newydd i’r gweithgaredd.
Gadewch i chi’ch hun ganu o’r enaid!
Gallwch hyd yn oed annog y rheini o’ch cwmpas i gyd-ganu hefyd.
Synau Llais A E I O U
Mae hwn yn ymarfer llais creadigol, adfywiol sy’n eich ymlacio. Gallwch ei wneud tra’n eistedd / sefyll neu hyd yn oed wrth orwedd.
Mae’n dechrau gydag ymarfer cynhesu syml iawn, gyda’r nod o gysylltu eich anadl hamddenol â synau llais hamddenol.
Yna byddwch chi’n dechrau lleisio nodau hir, nodau sydd wedi’u dal yr un hyd â’ch anadl eich hun – gan ymlacio drwy’r amser. Mae gan y trac cefndir rannau y gallwch eu dilyn gyda’ch llais, neu gallwch ddewis creu eich nodau a’ch alawon eich hun drwy ddefnyddio’r canllaw fel y mynnoch.
Ar bwynt penodol mae’r trac yn symud yn ysgafn i synau llafariaid.
Dweud A E I O U yn araf ond gyda rhythm.
Unwaith eto gallwch naill ai ddilyn y trac neu gallwch ymdroelli, gan adael i’ch llais arbrofi ac i fwynhau’r teimlad sy’n cyd-fynd â chanu llafariad agored.
Rhyddhau eich Meddwl – Rowndiau
Cyfres o alawon gyda geiriau – yn debyg i ddatganiadau.
Gall bob adran weithio fel ‘rownd’ (math o gân lle mae llais yn dechrau yna un arall yn dod i mewn ychydig yn hwyrach, ac eto mae’r cyfan yn dal i weithio mewn harmoni).
Mae pob un o’r 3 adran yn cyd-fynd â’i gilydd.
Gellir troi at y fideo hwn mewn ffordd syml iawn:
Drwy ganu un neu ddwy ran drwyddi draw.
Neu gadewch i chi’ch hun fynd yn rhydd rhwng rhannau.
Os ydych yn canu gyda ffrindiau neu deulu beth am weld a all pob un ohonoch ganu rhan wahanol….
Y Rhannau
1. Free your mind – Leave cares behind…
2. This is the time to let everything go now
Singing along let everything flow now
3. The stresses and strains, I throw down the drain
The hurt and the pain no longer remains
Cymraeg
Rhyddhau dy feddwl – Gad ofalon ar ôl.
Sing A Mole
Cysyniad sy’n defnyddio patrymau llais ailadroddus (riff) sy’n diflannu’n raddol ac yn newid.
Mae llawer o’r gêm yn defnyddio seiniau llais yn hytrach na geiriau, ond mae ganddi hefyd rannau sy’n defnyddio geiriau syml gydag ambell weithred hefyd:
e.e. ‘To the Left – to the right – spin around’
Mae hon yn gêm sy’n gofyn am synnwyr o hwyl a rhywfaint o ganolbwyntio.
Rydych chi’n clywed y ‘riff’ yn cael ei chyflwyno, ac yna llenwch y bylchau
When the mole pops up!
Diolch
Hoffwn ddiolch i fy ffrindiau canu am roi o’u hamser, a ddysgodd sut i ddelio â’r dechnoleg i greu fideos ‘hunlun’ ac am ganu a chyflwyno mor hyfryd.
Gobeithio y byddwch bron yn teimlo eich bod yn canu fel rhan o gymuned ganu hyfryd wrth gyd-ganu â: Judie, Brian, Anna, Helen, Ako, Hannah.
Diolch arbennig i’r canwr cyfansoddwr/ieithydd, Joseff, a ychwanegodd elfen Gymraeg.
Hefyd i Mabli, dysgwraig BSL ac athrawes Thai Chi a ychwanegodd BSL i’r fideo Rowndiau.
Diolch o galon hefyd i’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau Jon Ratigan am ddod â’r prosiect yn fyw ar y sgrin gyda’i weledigaeth glir ac artistig i bortreadu’r ymarferion/ caneuon a gemau yn weledol.
Mae Jon yn wneuthurwr ffilmiau ar brosiect Age Cymru Tell Me More.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Crosio i Ddechreuwyr
Dysgu'r hanfodion o grosio gyda'r artist crefft o Gaerdydd, Gemma Forde.

Bwydo eich creadigrwydd
Mae'r fideos hyn gan yr artist a'r awdur Sadia Pineda Hameed yn defnyddio ryseitiau ac atgofion am fwyd fel ffynhonnell ysbrydoliaeth ac ysgrifennu creadigol.

Ymestyn
Bydd y ffilmiau yma yn ennyn diddordeb, yn eich addysgu, ac yn eich annog i dreulio amser gyda choed.