Mae’r canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn archwilio’r cysylltiad rhwng caredigrwydd a’n hiechyd meddwl drwy ymchwil, cyngor a phrofiadau pobl eu hunain o sut mae caredigrwydd wedi effeithio arnynt.
Gwyddom yn sgil ymchwil bod cysylltiad dwfn rhwng caredigrwydd ac iechyd meddwl. Diffinnir caredigrwydd fel gwneud rhywbeth i chi eich hunan ac i eraill a ysgogwyd gan awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Yn 2020, canfuom fod 63% o oedolion y DU yn cytuno fod caredigrwydd pobl eraill yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl, ac mae’r un gyfran yn cytuno bod dangos caredigrwydd tuag at eraill yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl nhw.
Darganfyddwch sut y gall caredigrwydd newid eich iechyd meddwl.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Crwydro
Casgliad o dair ffilm ddawns i'ch arwain at eiliad o dawelwch ym myd natur.
Cysylltu nôl i’r Canol
Cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig i leddfu straen ac ymdawelu.
Y Gyfres Bollywood
Dysgwch hanfodion yr arddull ddawns amryddawn hon mewn cyfres o fideos a grëwyd gan gyn-ddawnsiwr Bollywood.