Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Carwch eich hunan unigryw

Carwch eich hunan unigryw

Rhowch gynnig ar greu eich dyluniad Llwy Garu eich hun sy'n dathlu pwy ydych chi a beth sy'n eich gwneud chi'n arbennig.

  • Nod / Anelu: Archwilio fy nhreftadaethByddwch yn greadigolDysgu rhywbeth newydd
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Hyd at dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Picture of group making lovespoons

Mae hanes hir o wneud Llwyau Caru yng Nghymru. Byddai pob llwy unigryw wedi cael ei siapio gyda gofal mawr a’i roi fel arwydd o gariad ac anwyldeb.

Ymunwch â’r artist Nia Wyn Skyrme i greu eich Llwy Garu eich hun, i chi’ch hun!

Bydd y gweithgaredd yn eich helpu i nodi eich meddyliau a’ch teimlad amdanoch chi’ch hun. Mae hwn yn gam pwysig tuag at fod yn garedig a thosturiol tuag at ein hunain a derbyn pwy ydym ni.

Dechreuwch drwy ddarlunio

Brasluniwch eich amlinelliad o lwy garu ar ddarn o bapur. Gallwch gael ysbrydoliaeth o casgliad Amgueddfa Cymru o Lwyau Caru. Meddyliwch am symbolau a phatrymau sy’n eich cynrychioli chi a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n arbennig.

Byddwch yn greadigol gyda gludwaith

Ychwanegwch wead a lliw at eich dyluniad gan ddefnyddio deunyddiau gludwaith. Torrwch allan a glynwch siapiau, delweddau, neu eiriau yr ydych yn uniaethu â nhw ar eich Llwy Garu.

Dathlwch eich hunan unigryw

Wrth i chi weithio, myfyriwch ar yr hyn sy’n bwysig i chi, beth sy’n unigryw amdanoch chi. Meddyliwch am agweddau ar eich hunaniaeth, diwylliant a phrofiadau sy’n siapio pwy ydych chi. Gadewch i’r rhain ysbrydoli eich dyluniad Llwy Garu unigryw.

Byddwch yn falch

Ysgrifennwch un peth positif amdanoch eich hun drws nesaf i’ch Llwy Garu – “Rwy’n…”

Beth am ei arddangos ar eich wal neu’ch oergell i’ch atgoffa am eich creadigrwydd a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n unigryw!

Yr offer sydd ei angen

  • Papur
  • Pensil
  • Pensiliau neu binnau lliwio
  • Deunyddiau gludwaith

Gwyliwch Nia Wyn Skyrme yn siarad am fanteision rhoi rhwydd hynt i’ch creadigrwydd, a gweld y gweithdy Llwyau Caru ar waith.

Darganfyddwch fwy am hanes Llwyau Caru yng Nghymru a’u hystyr.

Beth sy'n fy ngwneud i'n hapus

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls