Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Casgliad o dair ffilm ddawns i’ch arwain at eiliad o dawelwch ym myd natur.
Rydym yn eich gwahodd i ddod gyda ni, i gofio rhyddid plentyndod, i grwydro heb ofal yn y byd.
Dilynwch ein dawnswyr neu caewch eich llygaid a symfyfrio gyda ni, gan ddod o hyd i eiliad i ddianc, i gysylltu â chyflymder arafach y byd naturiol.
Adnodd Gan: Angharad Harrop and Henry Horrell.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gwneud Cychod Papur
Ysgogi eich creadigrwydd trwy greu cychod papur sy’n gallu arnofio.
Straeon Pobl Cymru
Archwiliwch ddiwylliant a stori Cymru a theimlo'n fwy cysylltiedig â phobl a lleoedd.
Dawns Chwyrlïo
Gwyliwch wrth i ddawnswyr - yn hongian yn yr awyr mewn grŵp o goed - symud i mewn ac o gwmpas ei gilydd.