Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Yr artist Nathan Wyburn ydw i, a dyma fy hunan-bortread a grëwyd drwy ddefnyddio pecynnau fy presgripsiwn sertraline.
Yn ystod y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn cadw pecynnau gwag fy mhresgripsiwn, a phenderfynais wneud y portread hwn i helpu i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Gadewch i ni siarad, gadewch i ni fod yno i’n gilydd. Rydyn ni’n byw mewn cynhwysydd plastig o fyd ar hyn o bryd, lle mae cymaint o bethau negyddol a chymaint i ddelio ag e.
Os ydych yn dioddef gyda’ch iechyd meddwl, hoffwn ofyn i chi siarad amdano, os nad wrth ffrindiau a theulu, yna ewch at eich meddyg teulu ac efallai y gallwch gael rhywfaint o help, fel y gwnes i.
Mae wedi bod o gymorth mawr i fi fel person ac fel artist.
Gobeithio bod y darn hwn o waith celf yn esbonio hynny i chi. Rwy’n falch iawn o’r gwaith ac rwy’n falch ohonof fy hun am gymryd y naid honno a chael cymorth.
Diolch.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Sut i Drwsio Hosan
Ffilm sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio.
Canu o’r Enaid
Tri gweithgaredd syml a hwyliog i’ch helpu i forio canu.
Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da
Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.