Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.
Gallwn ofalu am yr ymennydd er mwyn aros yn iach a lleihau’r risg o ddatblygu dementia wrth i ni heneiddio.
Mae Meddyliwch am Iechyd yr Ymennydd yn wefan sy’n ein hatgoffa pa mor anhygoel y mae’r ymennydd ac yn dangos ffyrdd hawdd i ni ofalu amdano. Mae’n argymell tri cham sy’n seiliedig ar dystiolaeth Hanfodion iechyd yr ymennydd – Meddyliwch am Iechyd yr Ymennydd – Ymchwil Alzheimer y DU i ofalu am iechyd yr ymennydd:
- Cynnal cysylltiad gyda’r bobl o’n cwmpas
- Cadwch yn siarp gan gymryd amser i’ch lles meddyliol, cysgu’n dda ac ymarfer eich ymennydd
- Carwch Eich Calon gan fod yn actif, bwyta bwydydd iachus a ddim ysmygu, popeth sy’n bwysig i’n hymennydd a’n cyrff.
Think Brain Health – Alzheimer’s Research UK is a ten-minute quiz that has been developed by Alzheimer’s Research UK. Mae’n darparu offeryn ymarferol i ddysgu mwy am iechyd eich ymennydd eich hun, pam ei fod yn bwysig a rhai awgrymiadau i’ch cefnogi.
Gall gofalu am eich ymennydd fod yn syml. Mae’r cyfan yn ymwneud â gwneud newidiadau bach, cadarnhaol rydych chi’n eu mwynhau a gallwch chi lynu wrthyn nhw.
Angen rhagor o syniadau? Mae dros ddeugain o awgrymiadau iechyd yr ymennydd bob dydd ar gael ar y wefan.
Ar gael yn Saesneg yn unig. Mae Ymchwil Alzheimer y DU yn gweithio i leihau’r risg o ddatblygu dementia. Ymwelwch â: Take our quiz – Think Brain Health – Alzheimer’s Research UK
Mae iechyd ymennydd dda yn dda i les meddyliol.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Crwydro
Casgliad o dair ffilm ddawns i'ch arwain at eiliad o dawelwch ym myd natur.
Sut i gofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn hŷn
Mae’r canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn awgrymu 10 ffordd ymarferol o ofalu am ein hiechyd meddwl pan fyddwn yn hŷn.
Cyflwyniad i Animeiddio
Dechreuwch â dwy dechneg animeiddio draddodiadol: techneg papur torri allan ac animeiddiad stop-symudiad.