Eich helpu chi i ganfod ffyrdd gwell o ymdopi â phroblemau bywyd. Gall pob un ohonom elwa o wella ein hiechyd meddwl a meithrin ein gwytnwch meddwl. Mae Melo yn darparu gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i’ch helpu chi i ddysgu sgiliau ymarferol i ymdopi â theimladau/sefyllfaoedd anodd, a all helpu i leihau’r risg o fynd yn sâl yn feddyliol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor arbenigol ar yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i wella ein lles a theimlo’n hapusach.
Rydym wedi casglu ynghyd yr adnoddau hunangymorth gorau sydd ar gael am ddim a’u rhoi mewn un lle. Yma fe ddowch o hyd i gyrsiau, apiau, fideos, adnoddau sain, llyfrau a gwefannau er mwyn cael rhagor o gefnogaeth. Mae’r holl adnoddau ar gael am ddim ac yn Gymraeg.
Bydd yr adnoddau yn eich helpu chi i ddatblygu sgiliau newydd a fydd yn eich cefnogi yn ystod cyfnodau anodd bywyd. Pan fyddwn yn treulio amser yn gofalu amdanom ni’n hunan, byddwn yn teimlo’n well. Byddwn yn gallu ymdopi â’r heriau mae bywyd yn eu taflu atom yn well ac yn gallu gofalu am bobl eraill.
Er na allwn ddatrys problemau bywyd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell i ymdopi â nhw. Ewch i www.melo.cymru/cy
Datblygwyd Melo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn partneriaeth â sefydliadau a grwpiau lleol.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Papur a beiro
Yn y tair fideo dw i'n eich gwahodd i ymuno efo fi ac ysgrifennu ychydig eich hun.
Newyddion a’r Wybodaeth Ddiweddaraf am Cadw
Newyddion cyffredinol a’r wybodaeth ddiweddaraf am safleoedd Cadw.
Straeon Lluniau
Ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol ac ymarfer. Gall ddod yn rhan o'ch trefn ddyddiol yn hawdd.