Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Stiwdio Syniadau

Stiwdio Syniadau

Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolDarganfod hobi neu ddiddordeb newyddGwnewch i mi feddwl
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Arweiniad neu Awgrymiadau-gorau, Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo
  • Gan: Mari Elen Jones a Dafydd Hughes
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Mari Elen Jones

Mi all y pethau fwyaf di-nod yn eich cartref sbarduno’r syniadau mwyaf creadigol yn eich dychymyg.

Croeso i Stiwdio Syniadau, cyfres fer dwi’n gobeithio bydd yn eich annog chi i ddefnyddio nwyddau o’ch cartref / gardd er mwyn sbarduno syniadau newydd a gwneud y broses ysgrifennu yn un hwyl.

Fy enw i ydy Mari Elen, dwi’n sgwennwr, podlediwr a pherfformiwr yn byw yng Ngogledd Cymru, a dwi’n caru dod o hyd i ffyrdd newydd o sbarduno syniadau. Dwi wedi bod yn ‘sgwennu ers blynyddoedd, sgwennu’n broffesiynol a sgwennu i deimlo’n well, ond weithiau dwi’m yn gwybod lle i ddechrau.

Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu. Mi fyddwn ni’n dod o hyd i blot, creu cymeriadau a chael hwyl.

Does ‘na’m ffiniau pan ydach chi’n sgwennu’n greadigol, a dyna sydd yn ei wneud mor gyffroes! Peidiwch poeni am gywirdeb iaith, dim ond mwynhau’r broses sydd yn bwysig.

Offer angenrheidiol: Papur, Beirio, Hen Gylchgronnau / Papurau Newydd / Llyfrau, Esgidiau Addas I Fynd Am Dro.

Stiwdio Syniadau - Creu Cymeriadau
Stiwdio Syniadau - Ysbrydoliaeth a phlotio

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls