Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
‘Does dim ffordd well o godi calon rhywun na thrwy dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.’
Fy enw yw Rhys Padarn Jones. Dwi’n artist o Bontarddulais sy’n hoff iawn o ddenfyddio geiriau i greu gwaith celf unigryw.
Tra dwi fel arfer yn defnyddio paent acrylic ar gynfas, dwi hefyd yn mwynhau dŵdlo’n gyflym ar bapur gan ddefnyddio pen du i amlinellu’r holl siapau.
Dwi’n credu’n gryf bod tynnu lluniau, lliwio a pheintio yn ddulliau arbennig o leddfu straen ac ymlacio.
Ar gyfer y Cwtsh Creadigol, dwi wedi penderfynu creu fideo o ddŵdl cam-wrth-gam sy’n defnyddio’r frawddeg ‘Treulia amser gyda’r sawl sy’n dy wneud yn hapus.’
Does dim ffordd well o godi calon rhywun na thrwy dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.
Os nad yw dilyn cyfarwyddiadau i greu llun eich hunan o’ch bodd, beth am ddewis un o’r taflenni lliwio parod dwi wedi creu?
Mae gennych ddewis o dri: ‘Bydda’n garedig i ti dy hun’, ‘Lle i’r enaid gael llonydd’ a ‘Rwyt ti’n gryfach nag wyt ti’n feddwl’.
Mwynhewch!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Melo
Mae gwefan Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles.
Gweithdai Siwrnai
Mae'r gyfres hon o weithdai creadigol byr yn eich gwahodd i ymgysylltu â rhywfaint o amser 'rhwng pethau'. Mae'r gweithgareddau'n fwriadol syml, oherwydd mae pethau da yn aml yn bethau syml.
Gofalu am eich iechyd meddwl drwy wneud ymarfer corff
Mae’r canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn edrych ar y cysylltiad rhwng gwneud ymarfer corff a’n hiechyd meddwl.