Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Derbyn ysbrydoliaeth
  4. »
  5. Cysylltu â natur trwy fytholeg Cymru
gan: Carol

Cysylltu â natur trwy fytholeg Cymru

Wedi’i rhannu yn: Treftadaeth a hanesEin meddyliau a'n teimladau
Merch ifanc yn chwyddio flag Cymraeg

Cysylltu â natur trwy fytholeg Cymru

Carol
Merch ifanc yn chwyddio flag Cymraeg

Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?

Mae gofalu am fy lles meddyliol yn bwysig iawn i mi oherwydd rwy’n mwynhau teimlo’n dda ac yn gallu ymdopi â’r hyn y mae bywyd yn ei daflu ataf.

Ar ôl profi gorbryder yn y gorffennol roeddwn i’n arfer rhedeg sawl gwaith yr wythnos a darganfod bod hyn wedi fy helpu i roi pethau yn eu gwir oleuni.

Mae cael lles meddyliol da yn fy ngalluogi i gael y gofod yn fy mhen i feddwl am bethau’n rhesymegol ac mae’n atal y teimlad hwnnw o orlethu.

Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?

Rwyf wedi gwneud ymdrech i gysylltu â gweithgareddau a phobl yn fy nghymuned. Gan fod y plant wedi tyfu a hedfan o’r nyth cefais fy hun yn ymgolli yn fy ngwaith. Diolch byth fe wnes i benderfyniad ymwybodol bod fy llesiant meddyliol yn bwysig i mi wrth i mi fynd yn hŷn. Rwyf am fwynhau bywyd ac felly ceisiais gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.

Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a darganfod doniau cudd.

Yn ddiweddar cefais wahoddiad i gymryd rhan mewn gweithdy natur awyr agored – roedd yn anhygoel! I gyd-fynd ag ef roedd gweithgaredd adrodd stori mewn arddull stori syml iawn a sgyrsiol am fytholeg Cymru. Yn benodol roedd yn canolbwyntio ar adar ym myd natur – fe wnaeth fy nenu.

Wedi gwrando ar y stori cawsom wahoddiad i ymgolli ym myd natur; cawsom wahoddiad i ddefnyddio ein synhwyrau i wrando, arogli, cyffwrdd ac ati ac fe wnaeth fy syfrdanu pan ges i fy ngorfodi i ganolbwyntio ar y gweithgaredd hwn roeddwn i wir wedi mwynhau teimlad o dawelwch a llesiant. Sbardunodd rai meddyliau o’m hymwneud â natur fel plentyn, ond hefyd ar ôl gwrando ar stori’r adar ym mytholeg Cymru teimlais gysylltiad â threftadaeth Cymru ac felly teimlais fy mod yn rhan o rywbeth llawer mwy.

Mae’n rhywbeth rwy’n gobeithio ei ymarfer yn amlach a gobeithio cael fy nheulu i gymryd rhan.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls