Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?
Rwyf bob amser wedi bod yn actif ac yn athletwr cystadleuol. Ond roeddwn i’n ei wneud am y rhesymau anghywir. Rwyf wedi dechrau cwnsela wythnosol i’m helpu i ddeall y pethau rwy’n eu gwneud a pham.
Hefyd, rydw i yn yr awyr agored ar lwybr arfordir Sir Benfro, neu’n beicio, neu’n nofio yn y môr ar bob cyfle a gaf, sy’n fy helpu i ddod o hyd i heddwch a chydbwysedd mewn byd sy’n gallu ymddangos yn hynod gymhleth a llawn straen ar adegau. Dw i ddim yn cystadlu bellach ychwaith.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Mae nofio gyda’r Bluetits wedi bod, yn llythrennol, yn achubwr bywyd. Mae cyfeillgarwch y grŵp yn Sir Benfro wedi trawsnewid fy mywyd, ac mae troedio’r dŵr oer a chael paned o goffi am 7am bob amser yn codi calon.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Oherwydd, ar ddiwedd 2019, cefais yr hyn rwy’n ei alw’n chwalfa feddyliol a chyrhaeddais ddyfnderoedd nad oeddwn yn gwybod eu bod yn bosibl. Dw i wedi cael trafferth gydag iselder ers hynny.

Dyma fi ar ben Mynyddoedd y Preseli ar fy meic ym mharc cenedlaethol Arfordir Penfro. Rwy’n hoffi’r llun oherwydd mae pobl ddi-ri wedi dweud wrthyf pa mor wirioneddol hapus ydw i’n edrych yn y llun a dw i yn hapus. Am y tro cyntaf ers pedair blynedd, rwy’n teimlo’n fodlon ac mewn heddwch â mi fy hun.
Mae’r pethau roeddwn i’n arfer mwynhau eu gwneud, a aeth ar goll yn y pedair blynedd hynny, wedi dychwelyd ond y tro hwn gyda mwy o ddealltwriaeth o fi fy hun.
Dyna’n rhannol pam fy mod wedi newid fy swyddi yn ddiweddar ac wedi symud yn barhaol i Sir Benfro i fyw a gweithio. Rwy’n teimlo fy mod wedi dod o hyd i ble rwyf am fod yn y byd ac mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgorffori hynny.
Dywedwch wrthym amdanoch chi’ch hun i roi eich stori yn ei chyd-destun a helpu eraill i gysylltu â’ch profiad.
Fy enw i yw Laura. Tua diwedd 2019 roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn ond doeddwn i ddim yn gwybod pam. Roeddwn i’n cael meddyliau tywyll iawn ac fe wnaethon nhw fy nychryn.
Un diwrnod penderfynais y byddwn yn mynd adref ar ôl gwaith a lladd fy hun. Sylweddolodd cydweithiwr nad oeddwn yn gwneud yn dda ac aeth â mi am baned o de yn Starbucks.
Byddaf yn ddiolchgar am byth am hynny, gan fod y weithred syml honno o garedigrwydd a phryder wedi dangos imi fod pobl yn poeni, a bod fy mywyd yn werth ei fyw.
Nid oes rhaid iddo fod yn rhywbeth mawreddog, ond yn gwestiwn syml fel, ‘sut wyt ti wir yn dod ymlaen?’. Gall hyn wneud gwahaniaeth. Mae’n bosibl iddo achub fy mywyd.
Doedd y tair blynedd nesaf ddim yn hawdd o bell ffordd – fe wnes i barhau i gael trafferth gyda’r hyn rydw i’n gwybod nawr oedd iselder ac roeddwn i’n hunan-niweidio.
Dechreuais nofio môr yn 2022 oherwydd roeddwn yn llythrennol eisiau nofio i ffwrdd a byth dychwelyd. Ond fe wnes i ddarganfod mai nofio oedd yr unig dro i mi fod yn ymwybodol o fy nheimladau fy hun a fy nghorff. Roeddwn i wrth fy modd.
Cariais ymlaen hyd at yr hydref hwnnw, a dyna pryd y gwelais y grŵp hwn o ferched a oedd yn edrych fel eu bod yn cael llawer mwy o hwyl na mi. Dywedais helo, ac fe wnaethon nhw dasgu draw ata i, rhoi bathodyn i mi a chyhoeddi fy mod yn Bluetit.
Ac yn awr yr wyf yn nabod pob un ohonyn nhw ac yn eu gweld bob bore ac ar y penwythnosau – rydym i gyd yn cael brecwast gyda’n gilydd mewn caffi lleol am 8am ar ôl i ni fod yn nofio.
Mae pawb yno am eu rheswm eu hunain. Mae camu’n lled-noeth i fôr oer ym mis Ionawr yn brofiad o glosio wedi’i bweru gan y rhuthr o endorffinau a choffi poeth wedyn. Mae pob Bluetit wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd, a gobeithio fy mod wedi cael yr un effaith ar y lleill.
Cofnodion eraill
Gweld popethDod o hyd i bwrpas mewn cerdd

Ymgolli ym myd natur

Mae cerddoriaeth yn codi fy ysbryd
